Abir Mukherjee yw awdur poblogaidd cyfres Wyndham & Banerjee (Vintage Publishing), nofelau trosedd wedi'u gosod yn India yn ystod cyfnod y Raj sydd wedi gwerthu dros 400,000 o gopïau ledled y byd ac wedi'u cyfieithu mewn i 15 iaith. Mae ei lyfrau wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys y CWA Dagger am y Nofel Hanesyddol Orau, y Prix du Polar Européen, Gwobr Wilbur Smith am Ysgrifennu Antur a Gwobr Darllenwyr Cyhoeddi Amazon am E-lyfr y Flwyddyn. Ochr yn ochr â'i gyd-awdur, Vaseem Khan, mae hefyd yn cynnal podlediad poblogaidd Red Hot Chilli Writers, lle mae gwesteion arbennig o'r cyfryngau a llenyddiaeth yn ymuno bob pythefnos i fwrw golwg ar fyd llyfrau, ysgrifennu a'r celfyddydau creadigol.
Ffuglen Hanesyddol: Ymchwilio, ysgrifennu, cyflwyno
Mae ffuglen hanesyddol yn parhau i swyno darllenwyr – gan gynnig dihangfa i’r gorffennol tra hefyd yn taflu goleuni ar y presennol. Ymunwch â’r awduron arobryn, C J Cooke ac Abir Mukherjee i archwilio byd gafaelgar a phoblogaidd nofelau hanesyddol. Yn ystod yr wythnos, byddwch chi’n teithio’n ôl mewn amser ac yn dod o hyd i ysbrydoliaeth gan bobl a digwyddiadau go iawn yn ogystal â byd y ffantasi a’r gothig. Cewch eich ysbrydoli gan leoliad hanesyddol Tŷ Newydd, adeilad rhestredig Gradd II* sy’n dyddio’n ôl i’r bymthegfed ganrif, wrth i chi ffurfio cymuned gefnogol o gyd-awduron ffuglen hanesyddol fydd yn parhau ymhell ar ôl yr wythnos.
P’un a ydych yn bwriadu datblygu darn newydd o waith ffuglen, neu’n teimlo’n angerddol dros stori unigolyn neu ddigwyddiad hanesyddol, bydd y tiwtoriaid yn eich arwain drwy’r camau i gyd- o’r gwaith ymchwil cychwynnol hyd at eich drafft olaf. Ar ba bwynt mae eich ymchwil wedi’i gwblhau? Sut ydych chi’n cyfleu cyfnod a lleoliad? Sut ydych chi’n troi ffigyrau hanesyddol yn gymeriadau credadwy, ac yn ailffurfio llinellau amser mewn i naratif afaelgar? Trwy weithdai grŵp a thiwtorialau un i un, cewch eich annog i ystyried i ba raddau y mae gan awduron y drwydded i ail-ddychmygu hanes a’r gwahaniaethau allweddol rhwng ffeithiau hanesyddol a ffuglen. Byddwch yn magu hyder yn eich ysgrifennu ac yn datblygu sgiliau a thechnegau newydd a fydd yn eich galluogi i adrodd hanes o bersbectif unigryw eich hun.
Bwrsariaethau
Mae un ysgoloriaeth gwerth £250 ar gael ar gyfer y cwrs hwn. I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen gais yma.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mercher 27 Awst 2025
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael, ewch i’n tudalen Cymorth Ariannol: https://www.tynewydd.cymru/cyrsiau-ac-encilion/cymorth-ariannol/
Tiwtor

Abir Mukherjee
Darllenydd Gwadd

Rachel Dawson (Digidol)
Mae Rachel Dawson yn awdur Cymraeg hoyw, dosbarth gweithiol. Neon Roses oedd ei nofel gyntaf a dyfarnwyd fwrsariaeth iddi gan Llenyddiaeth Cymru yn 2020, a’i galluogodd i’w ysgrifennu. Cyrhaeddodd Neon Roses restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024. Cafodd ei geni yn Abertawe ac mae wedi gwneud amrywiaeth o swyddi, gan gynnwys gwerthu rholiau selsig a dirgrynwyr (ddim ar yr un pryd), a gwirfoddoli i AS. Mae hi bellach yn gweithio yn y trydydd sector ac yn byw gyda’i gwraig yng Nghaerdydd.