Penwythnos Chwedleua

Gwe 20 Mehefin 2025 - Sul 22 Mehefin 2025
Tiwtoriaid / Daniel Morden & Phil Okwedy
Darllenydd Gwadd / Jan Blake
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Adrodd Straeon
Iaith / Saesneg

Mae’r cwrs hwn bellach yn llawn, ond mae un lle ysgoloriaeth dal ar gael. Dyddiad cau yr ysgoloriaeth yw 20 Ebrill. Os am ychwanegu’ch enw at y rhestr aros, cysylltwch â ni ar tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522 811

Hyd heddiw, mae chwedlau a straeon tylwyth teg yn parhau i ysbrydoli gwaith beirdd, awduron a sgriptwyr cyfoes. Mae’r grefft hynafol o adrodd straeon ar lafar yn rhywbeth sydd wedi siapio sut rydyn ni’n rhannu ein straeon personol bob dydd. Boed yn stori syfrdanol, hudolus, teimladwy neu ddwys, mae’r chwedlau traddodiadol sy’n rhan o’n diwylliant a’n hanes yn ein galluogi i ddeall yn well y cyflwr dynol, y byd cyfnewidiol yr ydym yn byw ynddo, a’n perthynas â byd natur.

Mae’r cwrs preswyl penwythnos hwn o adrodd straeon, a gynhelir bob blwyddyn, yn gyfle i ddechreuwyr ymgysylltu ag amrywiaeth o chwedlau ond hefyd i ddarganfod ffyrdd o’u newid a’u trosi fel bod modd i  gynulleidfaoedd heddiw uniaethu â nhw. Bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio ar y grefft o adrodd straeon ar lafar, ac yn eich hannog i berfformio’ch gwaith mewn ffordd sy’n driw i chi. Bydd y penwythnos hefyd yn cynnwys perfformiad arbennig gan y storïwr o fri, Jan Blake, yng Nghanolfan Felin Uchaf ar y nos Sadwrn. Erbyn diwedd y penwythnos, byddwch wedi datblygu stori fer i’w hadrodd i’ch cyd-storïwyr o fewn amgylchedd cefnogol, yn ogystal â’r wybodaeth a’r hyder i fynd â’ch chwedleua i fydoedd newydd.

 

Bwrsariaethau

Mae un ysgoloriaeth gwerth £150 ar gael ar gyfer y cwrs hwn. I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen gais yma.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Sul 20 Ebrill 2025.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael, ewch i’n tudalen Cymorth Ariannol: https://www.tynewydd.cymru/cyrsiau-ac-encilion/cymorth-ariannol/

Tiwtoriaid

Daniel Morden

Mae Daniel Morden yn adrodd straeon traddodiadol ers 1989. Mae wedi adrodd straeon ar draws y byd, o wledydd y Môr Tawel i'r Arctig i'r Caribî. Mae'n adnabyddus am ei ail-ddehongliadau eglur o chwedlau Groegaidd, a'i berfformiadau angerddol o chwedlau Cymraeg. Mae'n awdur sawl casgliad o straeon gwerin, gan gynnwys Dark Tales from the Woods (Gomer, 2006) a enillodd Wobr Tir na n-Og. Yn 2017 dyfarnwyd Medal Gŵyl y Gelli iddo am ei waith adrodd straeon. www.danielmorden.org

Phil Okwedy

Adroddwr straeon perfformiadol a chrëwr chwedlau ydy Phil Okwedy, a aned yng Nghaerdydd i fam o Gymru a thad o Nigeria. Mae’n tynnu'n helaeth ar ei dreftadaeth ddeuol a'i ddiwylliannau lluosog. Mae'n perfformio'n rheolaidd mewn clybiau adrodd straeon ac mae wedi ymddangos yn Beyond the Border ac yng Ngŵyl Chwedleua Aberystwyth, yn ogystal â Gŵyl Kea yng Ngwlad Groeg a Gŵyl Fabula yn Sweden. Yn 2018 cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, Wil & the Welsh Black Cattle (Gomer, 2018), sef cyfres o straeon gwerin Cymreig wedi'u seilio ar chwedloniaeth yr hen borthmyn. Yn 2021 dyfarnwyd lle iddo ar raglen Cynrychioli Cymru, sef rhaglen datblygu awduron Llenyddiaeth Cymru, ac yn 2022-23 aeth ar daith o gwmpas y wlad gyda'i sioe adrodd straeon gyntaf, The Gods Are All Here, gan dynnu ynghyd chwedlau, straeon gwerin a hanes personol Phil ei hun wedi'i sbarduno ar ôl darganfod cyfres o lythyrau oddi wrth ei dad yn Nigeria at ei fam yng Nghymru.

 

 

Darllenydd Gwadd

Jan Blake

Mae'r adroddwr straeon arobryn Jan Blake wedi bod yn perfformio ledled y byd ers 1986. A hithau wedi'i geni ym Manceinion i rieni o Jamaica, mae Jan yn arbenigo mewn chwedlau gwerin a mythau o'r Caribî, Gorllewin Affrica, Gogledd Affrica, a'r rhanbarthau Arabaidd. Gan ei bod yn arloesi o hyd, mae ganddi enw da haeddiannol am waith adrodd straeon deinamig a hael. Mae’n ymddangos yn y rhan fwyaf o wyliau adrodd straeon rhyngwladol mawr, mae’n arwain gweithdai adrodd straeon i ysgolion a phrifysgolion ac mae wedi cyfrannu at raglenni Radio’r BBC. Gyda phresenoldeb hudolus a dawn am ddod â straeon traddodiadol yn fyw, mae Jan wedi swyno cynulleidfaoedd ledled y byd. Gan dynnu ar ei repertoire helaeth o straeon gwerin, mythau a chwedlau o Affrica a’r Caribî, mae perfformiadau Jan yn mynd â gwrandawyr draw i diroedd pell ac yn ôl i hen oesau, gan eu swyno gyda grym ei dawn adrodd straeon. Yn 2021, lansiodd ei hysgol adrodd straeon ar-lein ei hun, sef Prosiect Chwedleua Akua. Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu cenhedlaeth newydd o adroddwyr straeon rhyngwladol sy’n ymrwymo i ymgysylltu’n ddyfnach â'u harferion adrodd straeon.

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811