Bardd, golygydd ac addysgwr Cymreig-Americanaidd yw Zoë Brigley. Mae’n Uwch Ddarlithydd Saesneg ym Mhrifysgol Talaith Ohio, yn Olygydd Poetry Wales, ac yn Gyd-Olygydd Barddoniaeth gyda Seren Books. Mae hefyd yn olygydd sefydlu yn MODRON, sef cylchgrawn o waith ysgrifennu am fyd natur a’r argyfwng ecolegol. Mae Zoë yn awdur tri chasgliad o farddoniaeth gyda Bloodaxe Books: The Secret, Conquest a Hand & Skull, ac mae pob un ohonynt wedi cael eu dewis fel Argymhellion gan Gymdeithas Llyfrau Barddoniaeth y Deyrnas Unedig. Mae ei gwaith ffeithiol yn cynnwys Notes from a Swing State (Parthian Books, 2019), ac mae ei gwaith wedi cael ei gydnabod gan Wobr Eric Gregory, Gwobr Forward a Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas Prifysgol Abertawe. Mae ganddi brofiad helaeth yn addysgu a mentora beirdd, ac yn gweithio’n olygyddol gydag awduron ar wahanol gamau o’u gyrfa, o’r rhai sy’n datblygu pamffled neu gasgliad cyntaf i feirdd profiadol.