Diolch i Gronfa Gydweithredol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Adran y Gymraeg Bangor a Llenyddiaeth Cymru wedi partneru i gynnig cyfle i 15 o ddisgyblion sy’n astudio Cymraeg Lefel A i dreulio penwythnos preswyl creadigol yng Nghanolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru, Tŷ Newydd, Llanystumdwy, 21-23 Tachwedd, 2025.
Yr hyn sy’n cael ei gynnig
Mae’r penwythnos – i gynnwys llety, bwyd (brecwast, cinio, swper, byrbrydau), diod a gweithdai – yn cael ei gynnig am ddim.
Drwy’r penwythnos bydd gweithdai creadigol byrlymus dan arweiniad beirdd, llenorion a dramodwyr sydd yn dal sawl gwobr a llwyddiant cenedlaethol a rhyngwladol. Ceir gweithdai barddoniaeth, rhyddiaith, sgriptio i ddrama a theledu, yn ogystal â darlleniadau gwadd gan awduron mwyaf cyffrous Cymru.
Amserlen y penwythnos
Gweler amserlen y penwythnos yma.
Dyma gyfle euraidd i gael eich tanio a’ch ysbrydoli yn greadigol. Yn ogystal, bydd yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion o bob cwr o Gymru i ddod at ei gilydd i gymdeithasu a chanfod eneidiau hoff cytûn.
Sut i wneud cais
I ymgeisio, bydd angen gwneud y canlynol erbyn 13:00pm, 13 Hydref, 2025:
- Llenwi ffurflen gais.
- Cyflwyno darn o waith creadigol dim mwy na 2,000 o eiriau. Gall y darn creadigol fod ar unrhyw ffurf/iau ac ar unrhyw destun. Nid oes rhaid creu gwaith creadigol newydd – gellir cyflwyno gwaith cwrs neu unrhyw ddarn creadigol sydd gennych yn barod.
Ewch yma i gyflwyno eich cais: https://forms.office.com/e/Kj7vLmZvwZ
Rhagor o wybodaeth
Mae’r alwad agored a’r holl fanylion wedi’u rhannu ar gyfryngau Adran y Gymraeg Bangor, Llenyddiaeth Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â m.tudur@bangor.ac.uk
Bydd cynrychiolaeth o Adran y Gymraeg Bangor, Llenyddiaeth Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dewis y 15 ac yn rhoi gwybod am y dyfarniad erbyn diwedd mis Hydref.