Os oes gennych chi flas ar ochr fwy anturus nofio gwyllt, yna mae ein Encil Nofio Mynydd yn berffaith.
Dros y penwythnos, byddwn yn ech tywys i i ffwrdd o’r torfeydd ac yn nofio yn y mannau nofio mwyaf anhygoel.
Bydd y lleoedd y byddwn yn nofio ynddynt yn ystod y penwythnos yn gofyn am deithiau cerdded ar lwybrau troed anwastad a byddant yn cynnwys rhywfaint o gerdded i fyny’r allt – mae angen lefel resymol o ffitrwydd a bod yn gyson ar eich traed.
Gadewch eich plant gartref, diffoddwch eich ffôn ac ymgolli yn y dirwedd anhygoel hon.
Byddwch yn aros yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ar lannau Afon Dwyfor.
Darperir pob pryd bwyd, ac mae digon o gacen gartref i danio’r nofiadau.
Afonydd yn llifo, rhaeadrau anhygoel a llynnoedd wedi’u cruglo yn y mynyddoedd. Byddwn yn nofio mewn o leiaf bedwar lleoliad gogoneddus gwahanol sydd oddi ar y llwybr prysur.
Rydym am roi’r hyder i chi gynllunio eich nofiadau gwyllt anturus eich hun. Mae nofio gwyllt yn y mynyddoedd yn dda i’r enaid. Mae’r encil hwn yn addas ar gyfer oedolion yn unig.
Nid oes angen unrhyw offer ffansi, dim ond gwisg nofio, tywel a rhai esgidiau i’w gwisgo yn y dŵr. Efallai y byddwch chi’n dewis dod â gwisg newid (dry robe) a siwt wlyb (wet suit).
Bydd angen esgidiau da arnoch chi fel esgidiau cerdded neu esgidiau hyfforddi cadarn ynghyd â siaced dal dŵr a sach gefn gyda strapiau ysgwydd i gario’ch offer.