Cwrs undydd: Barddoniaeth – Ymdawelu wrth Ysgrifennu

Sad 9 Mai 2026
Tiwtor / Meleri Davies
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Barddoniaeth
Iaith / Cymraeg

Ymunwch gyda ni yn awyrgylch gefnogol Tŷ Newydd am ddiwrnod o archwilio barddoniaeth yng nghwmni enillydd categori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2025, Meleri Davies. Byddwch yn cael eich hannog a’ch tywys i ysgrifennu cerddi sy’n fynegiant o’r teimladau a’r profiadau sy’n dod o ymdawelu. Bydd yn ddiwrnod o arafu i sylwi ar fanylion y beunyddiol gan dreulio amser yn crwydro’r ardd a’r tŷ gan ddechrau trwy greu llyfryn torri, gludo a sgribls i ddal ysbrydoliaeth a chreadigaethau’r dydd.

Trwy’r broses hon o arafu, byddwch yn sylwi ar bethau bychain efallai nad ydych wedi sylwi arnynt o’r blaen, gan gymryd ysbrydoliaeth o’r rhyfeddodau hynny o fyd natur ac o’r amgylchfyd tawel yn Nhŷ Newydd. Bydd hefyd modd i ganolbwyntio ar y lles ddaw inni o ymdawelu am ennyd, gan roi cyfle i brosesu emosiynau a phrofiadau anodd. Y gobaith yw y bydd pawb yn mynd ati i ysgrifennu cerdd neu gerddi sy’n dal teimlad y profiad o fod yn y foment. Bydd y cwrs hwn yn gyfle i feithrin eich llais creadigol ac i godi hyder, a bydd modd trafod y broses gyhoeddi a phrofiadau Meleri o gyhoeddi ei chyfrol gyntaf, Rhuo ei distawrwydd hi gyda Chyhoeddiadau’r Stamp yn 2024. Yn fardd newydd neu brofiadol, bydd y diwrnod hwn yn creu gofod croesawgar a diogel i chi ymdawelu wrth ysgrifennu. Dyma eich amser chi.

Mae ein cyrsiau undydd yn addas i unigolion sydd heb brofiad o gwbl yn y byd ysgrifennu creadigol, a hefyd i’r rhai â pheth profiad eisoes. Mewn awyrgylch groesawgar, gynnes, bydd cyfle i chi ddysgu gan diwtoriaid sydd yn arbenigwyr yn eu maes. Mae croeso i’r chwilfrydig, ac i’r rheiny sydd yn chwilio am ddiwrnod o hwyl ac am gael dysgu rhywbeth newydd. Os am drafod a ydy’r cwrs hwn, neu unrhyw un o gyrsiau rhaglen 2025 yn addas i chi, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol.

Bydd te, coffi a byrbrydau ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.

Tiwtor

Meleri Davies

Bardd a llenor sy'n byw a gweithio yn Nyffryn Ogwen yw Meleri Davies. Mae wedi cyhoeddi ei gwaith mewn nifer o gyfnodolion a cyhoeddwyd ei chyfrol cyntaf o farddoniaeth Rhuo ei distawrwydd hi gyda Cyhoeddiadau'r Stamp yn 2024. Enillodd y gyfrol honno Gategori Barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2025 ac mae'r gyfrol wedi ei hail-argraffu bedair gwaith mewn cyfnod byr o amser. Roedd Meleri yn un o’r 14 o awduron Ewropeaidd gymerodd ran ym Mhreswylfa LLIF Llenyddiaeth Cymru yn 2025, ac mae hi’n arbrofi gyda chyfieithu ac addasu ei barddoniaeth i ieithoedd amrywiol. Bu Meleri yn arwain menter gymdeithasol Partneriaeth Ogwen am dros ddegawd yn Nyffryn Ogwen gan arwain ar ddatblygu cynllun hydro cymunedol a phrosiectau adfywio eraill yn cynnwys datblygu siop lyfrau Gymraeg a gwyliau diwylliannol Cymraeg ym Methesda. Mae hi'n angerddol dros gymunedau, cynaladwyedd a chreadigrwydd, ac mae bellach yn ymarferydd creadigol yn gweithio o fewn y meysydd hyn.

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811