Yn enedigol o Lundain ac wedi’i fagu yn Ffynnon Taf, mae Malachy Edwards bellach yn byw ar Ynys Môn. Cyhoeddwyd cofiant ffeithiol-greadigol cyntaf yr awdur, Y Delyn Aur, gan Wasg y Bwthyn ym mis Tachwedd 2023, a chyrhaeddodd y llyfr Restr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024. Yn y llyfr hwn, mae Malachy yn archwilio ei hunaniaeth hil-gymysg, aml-ddiwylliannol a chrefyddol wrth olrhain hanes ei deulu yn Iwerddon a Barbados. Cyhoeddwyd y dilyniant yn y gyfres gofiannol ffeithiol-greadigol, Paradwys Goll, ym mis Hydref 2025. Yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau, mae’r awdur hefyd yn golofnydd i’r cylchgrawn Golwg.
Cwrs undydd: Ffeithiol greadigol – Hunan-archwilio a hel atgofion
Ymunwch â ni am ddiwrnod ysbrydoledig o ysgrifennu, hunan-archwilio a chreadigrwydd. Bydd y cwrs hwn yn eich tywys drwy’r grefft o droi atgofion personol a hanesion teuluol yn straeon bywiog sy’n cyffwrdd â darllenwyr. Mae gan bawb stori i’w hadrodd — ond efallai nad ydych yn siŵr ble i ddechrau? Trwy weithdai ymarferol, enghreifftiau ysbrydoledig ac awgrymiadau gan awdur sydd wedi cyhoeddi dwy gofiant ei hun, cewch gyfle i ddysgu sut i droi straeon teuluol, atgofion personol a phrofiadau dwys yn naratif creadigol a chynnes fydd yn aros yng nghof eich darllenwyr. P’un a ydych yn awdur newydd neu’n awyddus i gofnodi hanes eich teulu i’r dyfodol, mae’r cwrs hwn yn cynnig ysbrydoliaeth, sgiliau ac hyder i ddechrau arni.
Mae ein cyrsiau undydd yn addas i unigolion sydd heb brofiad o gwbl yn y byd ysgrifennu creadigol, a hefyd i’r rhai â pheth profiad eisoes. Mewn awyrgylch groesawgar, gynnes, bydd cyfle i chi ddysgu gan diwtoriaid sydd yn arbenigwyr yn eu maes. Mae croeso i’r chwilfrydig, ac i’r rheiny sydd yn chwilio am ddiwrnod o hwyl ac am gael dysgu rhywbeth newydd. Os am drafod a ydy’r cwrs hwn, neu unrhyw un o gyrsiau rhaglen 2025 yn addas i chi, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol.
Bydd te, coffi a byrbrydau ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.
Tiwtor