Ysgrifennu ffuglen: Tanio’r dychymyg

Gwe 26 Mehefin 2026 - Sul 28 Mehefin 2026
Tiwtor / Manon Steffan Ros
Darllenydd Gwadd / Darllenydd Gwadd
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Ffuglen
Iaith / Cymraeg

 Ydych chi’n awyddus i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu ffuglen, neu ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth i ddatblygu drafft sydd eisoes ar y gweill? Ymunwch â’r awdures arobryn Manon Steffan Ros am benwythnos preswyl arbennig yn Nhŷ Newydd ddiwedd Mehefin 2026.

 

Bydd y cwrs dwys hwn, drwy gyfrwng y Gymraeg, yn gyfle i blymio’n ddwfn i hanfodion ffuglen: creu cymeriadau credadwy, llunio plot effeithiol, rheoli rhythm a phwysau’r naratif, a thrafod ffyrdd o gadw’r cymhelliant i ysgrifennu ynghanol prysurdeb bywyd.

 

P’un ai eich bod yn newydd i ysgrifennu, neu’n awdur sy’n chwilio am gefnogaeth ac arweiniad i wthio drafft ymlaen, bydd y penwythnos yn cynnig awyrgylch cefnogol, creadigol a chyffrous i chi ddatblygu eich llais a’ch syniadau.

 

Dewch i roi hwb i’ch ysgrifennu mewn lleoliad ysbrydoledig – dyma’r cyfle perffaith i ganolbwyntio, dysgu, a rhannu profiadau gydag un o awduron cyfoes enwocaf Cymru a chriw o gyd-awduron cefnogol.

Tiwtor

Manon Steffan Ros

Manon Steffan Ros

Ganwyd Manon Steffan Ros yn Rhiwlas a gweithiodd fel actores cyn dod yn awdur. Mae hi'n ysgrifennu i oedolion a phlant ac mae wedi ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn am ei ffuglen i oedolion yn ogystal â bod yn enillydd gwobr llenyddiaeth plant Tir na N’Og bedair gwaith. Mae hi hefyd wedi ennill gwobrau'r Eisteddfod a Theatr Genedlaethol Cymru am ei dramâu. Mae hi'n byw yng ngogledd Cymru gyda'i dau fab a'i merch fach. Gyda The Blue Book of Nebo, addasiad o Llyfr Glas Nebo (Firefly Press, 2022), enillodd Manon Fedal Yoto Carnegie am Ysgrifennu.

 

Darllenydd Gwadd

Darllenydd Gwadd

Bydd y darllenydd gwadd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei gyhoeddi'n fuan iawn.

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811