Ffuglen Werin: Adrodd y Stori

Llu 29 Mehefin 2026 - Gwe 3 Gorffennaf 2026
Tiwtoriaid / Elizabeth Garner & Zoe Gilbert
Darllenydd Gwadd / Andrew Michael Hurley
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Ffuglen
Iaith / Saesneg

Mae straeon gwerin ymhlith ein ffurfiau naratif hynaf a mwyaf dylanwadol. Maen nhw wedi bod yn asgwrn cefn ar gyfer gwaith ysgrifennu ffantasi a ffuglen ddychmygus, o lyfrau plant a llyfrau i bobl ifanc i ffuglen genre a ffuglen lenyddol i oedolion. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae adfywiad straeon gwerin dystopaidd, llên gwerin ecolegol ac arswyd gwerin yn profi bod y grefft benodol yma o adrodd straeon yr un mor berthnasol ag y bu erioed. Beth bynnag ydy’ch diddordeb yn y genre, bydd y cwrs yma’n rhoi’r ddealltwriaeth a’r sgiliau i chi weithio gyda llên gwerin yn eich straeon eich hun ac archwilio’r ystyr dwfn sy’n gallu dod i’r wyneb mewn ffuglen werin.

Byddwn yn ymchwilio i’r amryfal ffyrdd y gallwn gymryd llên gwerin o ddifri, fel rhan o fywydau go iawn a bywydau dychmygol, a’i defnyddio fel man cychwyn ar gyfer creu ein bydoedd ffuglennol ein hunain. Drwy weithdai cyfranogol, gan gynnwys ymarferion ysgrifennu, darllen a thrafod, byddwch yn datblygu darnau ysgrifennu newydd fydd yn tyfu o hedyn llên gwerin. Byddwn yn chwilio am lên gwerin yn ein bywydau beunyddiol ac yn ein hatgofion ein hunain fel ffynonellau gwreiddiol syniadau ar gyfer straeon, ac yn ymarfer adeiladu bydoedd ffuglennol o dameidiau o lên gwerin sydd wedi’u darganfod, fel arferion, defodau a chredoau lleol. Byddwn yn dadansoddi swyddogaeth gwrthrychau mewn straeon gwerin ac yn arbrofi gydag adeiladu ein bydoedd stori ein hunain o’u cwmpas. Byddwn yn edrych ar y ffyrdd mae awduron ffuglen werin yn benthyca hud a grym llên gwerin a straeon i ddyfnhau ystyr ac i greu aflonyddwch mewn straeon cyfoes.

Dyma gwrs ar gyfer awduron sy’n gobeithio ymgysylltu’n ddyfnach â llên gwerin yn eu gwaith ysgrifennu a’i defnyddio fel ffordd o ysbrydoli gwaith gwreiddiol newydd. Does dim angen profiad blaenorol.

Tiwtoriaid

Elizabeth Garner

Mae Elizabeth Garner yn awdur dwy nofel, Nightdancing (Headline, 2004) a The Ingenious Edgar Jones (Headline, 2008), y ddwy wedi dod o dan ddylanwad naratifau a motiffau chwedlau gwerin traddodiadol. Yn 2022 cyhoeddodd Lost & Found (Unbound, 2022), ei hail-ddehongliad ei hun o ddetholiad o straeon traddodiadol. Mae'n olygydd ffuglen llawrydd, yn dysgu ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Rhydychen ac yn drefnydd digwyddiadau yn Siop Lyfrau Caper, Rhydychen. Hi hefyd ydy’r ymddiriedolwr celfyddydau yn Ymddiriedolaeth Blackden, elusen addysgol a sefydlwyd yn ei chartref teuluol yn Swydd Gaer.

Zoe Gilbert

Mae Zoe Gilbert yn awdur dwy nofel, Folk (Bloomsbury, 2018), a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas ac a addaswyd ar gyfer Radio'r BBC, a Mischief Acts (Bloomsbury, 2022) a enwyd yn Llyfr y Flwyddyn gan y Sunday Times. Mae ei straeon byrion wedi ymddangos mewn blodeugerddi a chyfnodolion yng ngwledydd Prydain ac yn rhyngwladol, ar Radio’r BBC, ac wedi ennill gwobrau gan gynnwys Gwobr Stori Fer Costa. Gyda Lily Dunn, mae’n gyd-olygydd y flodeugerdd adferiad, A Wild and Precious Life (Unbound, 2021), ac mae'n gyd-gyfarwyddwr London Lit Lab, lle mae'n dysgu cyrsiau ysgrifennu creadigol ar lên gwerin, straeon gwerin, y ffantastig a hudoliaeth, ac yn mentora awduron.

Darllenydd Gwadd

Andrew Michael Hurley

Cyhoeddwyd nofel gyntaf Andrew Michael Hurley, The Loney, yn wreiddiol gan Tartarus Press yn 2014 ac yna gan John Murray flwyddyn yn ddiweddarach. Wedi hynny enillodd Wobr Nofel Gyntaf Costa 2015 a gwobrau Diwydiant Llyfrau Prydain 2016 am Nofel Gyntaf a Llyfr y Flwyddyn. Aeth Devil’s Day (John Murray, 2017) ymlaen i ddod yn gydradd fuddugol yng Ngwobr Encore y Royal Society of Literature yn 2018 am yr ail nofel orau. Enillodd ei gyfres ar BBC Radio 4, Voices in the Valley, a ddarlledwyd yn hydref 2022, y wobr efydd yng Ngwobrau Aria 2023 am ddarllediadau sain a radio. Addaswyd ei drydedd nofel, Starve Acre (John Murray, 2024) yn ffilm nodwedd yn ddiweddar, gyda Matt Smith a Morfydd Clark yn serennu. Yn 2024, cyhoeddwyd Barrowbeck (John Murray) a gafodd glod gan y beirniaid, a bydd ei nofel ddiweddaraf, Saltwash (John Murray), allan ym mis Hydref 2025. Mae'r awdur yn byw yn Swydd Gaerhirfryn ac yn dysgu Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol Ysgrifennu Prifysgol Fetropolitan Manceinion.

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811