Bardd ac artist amlddisgyblaethol Prydeinig o Nigeria yw Theresa Lola. Mae wedi perfformio yn Neuadd Albert ac yn y Jazz Café, wedi’i chomisiynu gan Rimowa a Selfridges, ac wedi dylunio rhaglenni ar gyfer Oriel Luniau Dulwich ac Amgueddfa Hackney. Mae’n awdur dau gasgliad o farddoniaeth. Mae cerdd o’i llyfr cyntaf In Search of Equilibrium (Nine Arches Press, 2019) ar y maes llafur TGAU yng ngwledydd Prydain. Cafodd ei hail gasgliad Ceremony for the Nameless (Penguin, 2024) ganmoliaeth yn y Guardian fel llyfr sy'n sicrhau ei lle fel arloeswr i don newydd o feirdd.
Barddoniaeth: Ail-adrodd Atgofion
“Atgofion yw mam yr awen, medden nhw; ac oes, mae yna athrylith yn y cof. Ond mae’n rhaid i chi wneud rhywbeth ag e.” – Robert Lowell
Y gwir ydy bod y cof yn ddryswch. Ond mae ei diriogaeth yn ddiderfyn – yn newid, yn effro, ac yn werthfawr. Sut allwn ni fanteisio ar y gronfa gyfoethog yma gan wneud mwy nag ail-adrodd y digwyddiadau? Byddwn yn trafod cerddi sy’n cydnabod ac yn ymgorffori cymhlethdodau’r cof drwy ddefnyddio ffurf, delweddau ac ail-adrodd.
Cyfle i archwilio ffyrdd o blethu’r hyn sy’n wir a’r hyn sydd wedi’i ail-ddychmygu, o greu naratifau anghydlynol, o ddefnyddio ail-adrodd yn effeithiol, ac o gymylu’r llinellau rhwng gwirionedd a dyfeisgarwch. Bydd yna weithdai grŵp, tiwtorialau un-i-un gydag adborth ar eich gwaith, ac ymarferion gydag arweiniad fydd yn amlygu ffyrdd diddorol o ymdrin â’ch barddoniaeth eich hun.
Tiwtoriaid
Theresa Lola
Cecilia Knapp
Mae Cecilia Knapp yn fardd, nofelydd ac yn gyn-Fardd Pobl Ifanc Llundain. Roedd hi ar restr fer gwobr Forward 2022 am y gerdd sengl orau. Hi yw enillydd Gwobr Ruth Rendell 2021 a chafodd ei dewis ar gyfer rhestr fer Gwobr Menywod Rebecca Swift. Cyhoeddwyd ei chasgliad barddoniaeth gyntaf Peach Pig gan Corsair ym mis Hydref 2022. Mae ei cherddi wedi ymddangos yn The Financial Times, Granta a The White Review. Hi oedd yn curadu'r antholeg Everything is Going to be alright: Poems for When You Really Need Them, a gyhoeddwyd gan Trapeze yn 2021.
Cyhoeddir ei nofel gyntaf Little Boxes gan The Borough Press. Cafodd Little Boxes ei chynnwys ar restr hir Gwobr Nofel Gyntaf The Authors Club. Mae ei hail nofel Lack (The Borough Press) ar y gweill yn 2026. Mae hi'n dysgu ysgrifennu creadigol yn aml mewn nifer o leoliadau.
Darllenydd Gwadd
Hanan Issa (Digidol)
Mae Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa yn fardd, gwneuthurwr ffilm ac artist Iraci-Gymreig o Gaerdydd. Mae ei gweithiau diweddar yn cynnwys ei chasgliad barddoniaeth My Body Can House Two Hearts (Burning Eye Books, 2019) a’i chyfraniadau i Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales (Repeater Books, 2022). Perfformiwyd ei monolog buddugol ‘With Her Back Straight’ yn Bush Theatre fel rhan o’r Hijabi Monologues. Roedd hi hefyd yn rhan o ystafell awduron cyfres arloesol Channel 4, We Are Lady Parts, ochr yn ochr â’i dyfeisiwr arobryn, Nida Manzoor. Derbyniodd Hanan gomisiwn 2020 Ffilm Cymru / BBC Wales ar gyfer ei ffilm fer The Golden Apple. Mae ei gwaith wedi’i berfformio a’i gyhoeddi ar blatfformau fel BBC Wales, ITV Wales, Huffington Post, Gŵyl StAnza, Poetry Wales, Y Stamp, Wales Arts Review, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’r British Council. Cyd-sefydlodd Hanan y noson meic agored Where I’m Coming From yng Nghaerdydd.