Ysgrifennu’r Profiad Dosbarth Gweithiol

Llu 14 Medi 2026 - Gwe 18 Medi 2026
Tiwtoriaid / Graeme Armstrong & Ali Millar
Darllenydd Gwadd / Anthony Shapland (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Ffeithiol
Iaith / Saesneg

Sut mae dechrau, a sut mae dal ati, i ysgrifennu o’r ymylon?

Sut fyddwch chi’n diffinio eich gwaith, a beth ydy eich bwriad ar ei gyfer yn y pen draw? O ble mae cael syniadau, a sut mae eu datblygu wedyn? Beth sy’n gwneud cymeriad, lleoliad a stori wych?

Byddwn yn archwilio hyn i gyd a mwy drwy chwilio am y gwaith dosbarth gweithiol gorau a’i drafod, a defnyddio ymarferion byr a hygyrch i’ch cael chi i ysgrifennu darnau y gallwch fynd ati i’w datblygu ymhell ar ôl y cwrs.

Mae’r cwrs yma’n addas ar gyfer y rhai sy’n dechrau ar eu taith yn ogystal ag awduron sydd â phrosiect ar y gweill neu mewn golwg.

 

Mae yna nifer cyfyngedig o ysgoloriaethau ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Ewch i’n tudalen Cymorth Ariannol am ragor o wybodaeth, ac i wneud cais cyn y dyddiad cau 11 Mawrth 2026.

Tiwtoriaid

Graeme Armstrong

Awdur o Airdrie yw Graeme Armstrong, sydd wedi bod ar restr gwerthwyr gorau’r Times. Treuliodd ei arddegau yn niwylliant gangiau ‘young teams’ yr Alban. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, The Young Team, gan Picador yn 2020 ac enillodd Wobr Somerset Maugham a Gwobr Betty Trask a chafodd ei enwi’n Llyfr Sgoteg y Flwyddyn 2021. Ysgrifennodd a chyflwynodd gyfres ffeithiol i'r BBC ar ddiwylliant rêf yn yr Alban a enwebwyd am wobrau BAFTA ac RTS yr Alban, sef Scotland the Rave (BBC, 2021), a chyfres ar esblygiad diwylliant gangiau'r Alban, Street Gangs (BBC, 2023), a ymddangosodd ar BBC iPlayer. Yn 2023, cafodd ei enwi’n un o Nofelwyr Ifanc Gorau Prydain Granta, anrhydedd lenyddol a rhestr sy’n cael ei chyhoeddi unwaith mewn degawd. Mae The Young Team wrthi'n cael ei datblygu fel drama nodedig ar BBC 1, y disgwylir iddi gael ei darlledu ddiwedd 2026. Cyhoeddir ei nofel newydd Raveheart gyda 4th Estate ym mis Ebrill 2026. Mae wedi cael ei phrynu ar gyfer y sgrîn gan Warp Films (This is England/Adolescence).

Ali Millar

Wedi'i geni yng Nghaeredin a'i magu mewn cwlt yn yr Alban, Ali Millar yw awdur arobryn The Last Days (PRH, 2022) ac Ava Anna Ada (White Rabbit, 2024). Daeth The Last Days yn Llyfr y Flwyddyn y Guardian, ac yn 2024, enwodd The Scotsman hi'n awdur i'w gwylio. Fel newyddiadurwr, mae ei gwaith wedi ymddangos yn The Sunday Times, The Guardian, The Stylist a The Independent ymhlith papurau eraill. Mae hi wedi cyfweld â rhai o awduron ac artistiaid blaenllaw'r byd gan gynnwys Rachel Cusk, Samantha Harvey, Maggie O'Farrell, David Baddiel a Jeremy Deller. Mae ganddi MA gyda rhagoriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol, ac mae wedi darlithio ym Mhrifysgol Bologna a Phrifysgol Bath Spa. Mae hi'n tiwtora ysgrifennu creadigol yn rheolaidd ar draws nifer o ganolfannau ysgrifennu gan gynnwys Arvon, Moniack Mohr, a Hawkwood. Mae hi'n rhannu ei hamser rhwng yr Alban ac arfordir

Darllenydd Gwadd

Anthony Shapland (Digidol)

Magwyd Anthony Shapland yng Nghwm Rhymni. Mae’n gyd-sylfaenydd g39, Caerdydd, lle mae’n gweithio. Roedd yn rhan o Garfan Cynrychioli Cymru 2022-23 Llenyddiaeth Cymru lle gafodd ei fentora gan Cynan Jones. Cyrhaeddodd restr fer Gwobr Rhys Davies am Foolscap sy’n rhan o’r flodeugerdd Cree, a gyhoeddwyd gan Parthian (2022). Comisiynwyd ei draethawd ffeithiol creadigol, Meantime, gan Inclusive Journalism ar gyfer blodeugerdd Seren, Cymru & I (2023) ac yn ddiweddar cyfrannodd at flodeugerdd (un)common a gyhoeddwyd gan Lucent Dreaming (2024). Cafodd ei ddewis ar gyfer rhaglen Hay Writers at Work yn 2023. Bydd ei ffuglen, Feathertongue, yn cael ei darlledu fel rhan o gyfres Short Works ar BBC Radio Four yn hydref 2024. Mae'n cael ei gynrychioli gan Cathryn Summerhayes, Curtis Brown, chyhoeddwyd ei nofel gyntaf, A Room Above a Shop, gan Granta yn 2025.

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811