Tŷ Newydd is a magical place of words and friendships, the sound of the sea and the sight of blooming flowers. You can look down the garden, through the hole in the hedge and see the billowing sea, or else the next line of a poem, hanging there, waiting to be picked.
Encil Di-diwtor yr Hydref
Dyma gyfle i ddianc rhag prysurdeb bywyd bob dydd i noddfa greadigol – i’r lleoliad heddychlon hwnnw lle gallwch fynd i orffen ysgrifennu eich nofel, neu darllen a synfyfyrio efallai? Bydd ein hencilion, o fewn awyrgylch prydferth Tŷ Newydd rhwng y môr a’r mynyddoedd, yn cynnig y ddihangfa berffaith i chi. Gallwch fynd am dro ar hyd y Lôn Goed, cerdded i’r traeth i chwilio am ysbrydoliaeth, a rhannu syniadau dros swper gyda’ch cyd-letywyr. Bydd pawb â’i ystafell ei hun – a bydd prydau bwyd cartref yn cael eu paratoi ar eich cyfer.
Am flas o goginio Tony (ein cogydd preswyl) cliciwch yma.
Mae’r encil hwn yn rhan o’n cyfres o encilion tymhorol di-diwtor a gynhelir yn ystod gwanwyn, haf, hydref a gaeaf 2026-27. Bydd awduron sy’n archebu lle ar un encil di-diwtor yn derbyn gostyngiad 20% dros ebost i’w ddefnyddio tuag at encil ddi-diwtor arall o fewn yr un flwyddyn.