Awdur, golygydd a chynhyrchydd creadigol o Fro Morgannwg yw Kathryn Tann. Mae wedi gweithio gyda chyhoeddwyr annibynnol fel Parthian Books ac fel cynhyrchydd rhaglenni ar gyfer New Writing North. Mae wedi ennill gwobrau Rising Star gan The Bookseller a’r Elusen Argraffu. Mae gwaith Kathryn ei hun wedi ei gyhoeddi a’i ganmol yn helaeth, gan gynnwys casgliad o ysgrifau, Seaglass, gyda Llyfrau Calon ym mis Mai 2024 ac erthyglau ar gyfer papurau newydd fel The Guardian, The Scotsman a The Bookseller. Roedd ei hysgrif, ‘Return to Water’, yn enillydd un o’r categorïau yng ngwobrau’r New Welsh Writing Awards yn 2021. Mae Kathryn yn arwain ar waith ffeithiol greadigol, ac yn rheoli partneriaethau, rhaglenni, strategaeth a nawdd.
Encil Folding Rock: ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau
Ar yr encil yma, byddwn yn ymuno â golygyddion sefydlu Folding Rock, cylchgrawn llenyddol a sefydlwyd yn 2024 i helpu i roi Cymru ac ysgrifennu o Gymru ar y map. Bydd y gweithdai’n canolbwyntio ar greu darnau byrion cryno a gafaelgar o waith ffuglennol a ffeithiol greadigol fydd yn addas ar gyfer cylchgronau., Bydd y tiwtoriaid yn codi cwr y llen cylchgrawn Folding Rock, ac yn rhoi arweiniad ar olygu, paratoi a chyflwyno’ch gwaith i’w ystyried, yn ogystal â datblygu portffolio o waith a fydd yn denu sylw
Bydd cynrychiolwyr o rai o’r cyhoeddiadau cyffrous eraill yng ngwledydd Prydain, Iwerddon a’r tu hwnt o bosib, yn ymuno â ni ar-lein yn ystod yr wythnos.
Tiwtoriaid
Kathryn Tann
Robert Harries
Golygydd a dylunydd o Abertawe yw Robert Harries. Mewn cyfnod o ddegawd a mwy ym myd cyhoeddi, mae wedi gweithio'n fewnol ac ar ei liwt ei hun i sawl tŷ cyhoeddi yn Llundain ac un o weisg annibynnol mwyaf nodedig Cymru, Parthian Books, cyn sefydlu Folding Rock ar y cyd â’r awdur Kathryn Tann yn 2024. Yn ystod ei yrfa, mae Rob wedi golygu teitlau gan ystod eang o awduron, gan gynnwys Sophie Mackintosh, Joe Dunthorne, Anthony Shapland, Stevie Davies, Max Boyce, Richard Zimler a Joshua Jones, a gyrhaeddodd rhestr fer Gwobr Dylan Thomas 2024. Mae Rob yn arwain ar ffuglen i Folding Rock, yn ogystal â rheoli'r gwaith dosbarthu, cynhyrchu, adylunio.
Darllenydd Gwadd
Darllenydd Gwadd
Bydd y darllenydd gwadd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei gyhoeddi'n fuan iawn.