Cwrs Preswyl Barddoniaeth Traws-Genedl: Teithio Rhwng Lleisiau

Llu 16 Tachwedd 2026 - Gwe 20 Tachwedd 2026
Tiwtoriaid / Hanan Issa & Peter Mackay
Darllenydd Gwadd / Menna Elfyn
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Barddoniaeth
Iaith / Saesneg

Ymunwch â Hanan Issa a Peter Mackay ar gyfer Teithio Rhwng Lleisiau, cwrs barddoniaeth preswyl traws-genedl a gyflwynir mewn partneriaeth gan Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a Moniack Mhor. Yn cael ei gynnal yn gyntaf yng Nghymru (Tachwedd 2026) ac yna yn yr Alban (Mai 2027), bydd y cyrsiau deuol hyn wedi’u gwreiddio yn eu tirweddau unigryw ond wedi’u cysylltu gan themâu cyffredin o iaith, hunaniaeth, lle a chyfrifoldeb barddonol. Trwy’r bartneriaeth arloesol hon, mae Canolfannau Ysgrifennu Cenedlaethol Cymru a’r Alban yn gobeithio pontio hunaniaethau, cymunedau a thirweddau trwy farddoniaeth a chreadigrwydd.

Yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, bydd y tiwtoriaid yn dod â thraddodiadau Gaeleg, Cymraeg, Saesneg ac Arabeg ynghyd. Bydd y ddau bardd cenedlaethol yn archwilio beth mae’n ei olygu i ysgrifennu o le ac ar gyfer lle, yn ogystal ag am gyfnod penodol. O goffáu cerrig milltir cenedlaethol i ymateb i’r argyfwng hinsawdd, byddant yn archwilio rôl y bardd fel croniclydd a newidiwr, a phŵer parhaol creadigrwydd a llenyddiaeth i ddogfennu ein hoes a dylanwadu sgyrsiau cenedlaethol a rhyngwladol a  meddylfrydau gwleidyddol. Wedi’i leoli yn nhirwedd Cymru, bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i dynnu ysbrydoliaeth o’r lleoliad a’r tirwedd. Ganol yr wythnos, bydd bardd gwadd clodwiw hefyd yn ymuno â’r grŵp ar gyfer darlleniad a sgwrs arbennig.

Mae’r cwrs barddoniaeth hwn yn croesawu beirdd profiadol, yng nghanol gyrfa, neu unigolion sydd o ddifrif ynglŷn â datblygu eu crefft. Gyda’n gilydd, byddwn yn holi sut mae dewis iaith yn siapio mynegiant artistig, a sut y gall gweithio mewn neu ochr yn ochr ag iaith leiafrifol hogi llais a dyfnhau ymdeimlad o berthyn. Yn ystod yr wythnos, gallwch ddisgwyl gweithdai, ymarferion sy’n ysgogi syniadau a thrafodaethau, ochr yn ochr â chyfleoedd i dderbyn adborth craff ac adeiladol ar eich ysgrifennu eich hun.

Tiwtoriaid

Hanan Issa

Mae Hanan Issa yn fardd, gwneuthurwr ffilmiau ac artist Cymreig-Iracaidd. Mae ei chyhoeddiadau’n cynnwys ei chasgliad barddoniaeth My Body Can House Two Hearts a Welsh [Plural]: Essays on the Future of Wales. Perfformiwyd ei monolog fuddugol With Her Back Straight yn y Bush Theatre fel rhan o’r Hijabi Monologues. Mae’n rhan o dîm awduron cyfres arobryn Channel 4, We Are Lady Parts. Mae Hanan yn gyd-sylfaenydd y gyfres meic agored Where I’m Coming From. Hi oedd derbynnydd comisiwn Ffilm Cymru / BBC Cymru yn 2020 ar gyfer ei ffilm fer The Golden Apple. Hi yw Bardd Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd ac yn Gymrawd Rhyngwladol Gŵyl y Gelli yn 2022

Peter Mackay

Yn wreiddiol o Ynys Lewis, mae Peter Mackay yn Athro Llenyddiaeth ym Mhrifysgol St Andrews ac yn arbenigwr ar lenyddiaeth yr Alban ac Iwerddon o 1800 ymlaen, yn enwedig llenyddiaeth Gaeleg yr Alban. Mae wedi cyhoeddi dau fonograff, This Strange Loneliness: Heaney’s Wordsworth (McGill-Queen’s, 2021) a Sorley MacLean (RIISS, 2010). Enillodd blodeugerdd a olygwyd ganddo ar y cyd ag Iain S MacPherson, An Leabhar Liath: 500 years of Gaelic Love and Transgressive Verse (Luath, 2015), Wobr Donald Meek am lenyddiaeth Gaeleg a Gwobr Llyfr Ymchwil y Flwyddyn Saltire; enillodd blodeugerdd arall a gyd-olygwyd ganddo gyda Jo MacDonald, 100 Dàn as Fheàrr Leinn / 100 Favourite Gaelic Poems, y Duais Ruaraidh MhicThòmais yn 2021. Cafodd ei gyfrolau o farddoniaeth Gu Leòr / Galore (Acair, 2015) a Nàdur de / Some Kind of (Acair, 2020) eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Llyfr Barddoniaeth y Flwyddyn Saltire; cafodd Nàdur de hefyd ei gynnwys ar y rhestr hir ar gyfer Gwobr Llyfr yr Ucheldiroedd. Mae o wedi’i enwi’n AHRC / BBC Next Generation Thinker, mae o hefyd yn ddarlledwr rheolaidd ar Radio 3 a BBC Radio nan Gàidheal. Yn 2024 fe’i penodwyd yn Fakar yr Alban.

Darllenydd Gwadd

Menna Elfyn

Bardd a dramodydd arobryn sydd wedi cyhoeddi 17 o gyfrolau o farddoniaeth yn Gymraeg  ac yn  ddiweddarach yn y ddwy iaith. Mae ei gwaith wedi gyfieithu i dros ugain o ieithoedd a’r mwyaf diweddar yw ‘ Caned Pobl y Byd/ Let the World’s People Sing, cyfrol Arabeg , H’mm Foundation, 2025. 

 Ymddangosodd  Parch, Bloodaxe Books hefyd yn 2025, sef cyfrol o gyfieithiadau a luniodd yn bennaf o’r cerddi Cymraeg gwreiddiol. Bydd y gyfrol ‘ Carco’ yn 2026, Barddas, yn cynnwys hanner canrif o gerddi a ddewiswyd ganddi o wahanol ddegawdau o’u gwaith. 

Mae hi wedi teithio’r byd i nifer o wledydd i ddarllen ei gwaith mewn Gwyliau neu breswyliadau. Bu’n Fardd Plant Cymru yn 2002-2003 ac yn ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant am ddeunaw mlynedd  cyn ymddeol yn 2016. Mae hi bellach yn Athro Emeritws yno ac yn Gymrawd ym Mhrifysgol Aberystwyth.   

Fel dramodydd dros  ddwsin o ddramâu llwyfan, radio a theledu, cydweithiodd hefyd fel libretydd gyda nifer o gyfansoddwyr byd enwog yn America ac yng Nghymru. Y mwyaf diweddar o’r  rhain oedd  y libreto ‘ Angerdd a Gerdd’ sef darn corawl  arbennig i gant a hanner o bobl ifanc   gan y cyfansoddwr enwog Paul Mealor ac a berfformiwyd yn y Pafiliwn fel diweddglo  Eisteddfod y Garreg Las 2026.  

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811