Opsiynau Llety

Fel hen adeilad a safle rhestredig Gradd II*, mae ystafelloedd Tŷ Newydd yn amrywio o ran maint, lleoliad a chyfleusterau. Wrth archebu lle ar gwrs preswyl, gallwch ddewis y math o lety a ffafrir – a fydd, gobeithio, yn gwneud ein cyrsiau’n fforddiadwy i fwy o westeion, tra hefyd yn sicrhau gofod a chysur ychwanegol i’r rhai sy’n chwilio am rywbeth ychydig yn fwy arbennig.

Mae modd i chi ddewis pa fath o ystafell wrth archebu. Os ydych yn ymweld gyda ffrind neu bartner ac yn dymuno rhannu ystafell, cysylltwch â ni am opsiynau. Hefyd, os nad ydych yn gweld y math o lety sydd orau gennych fel opsiwn wrth geisio archebu cwrs, cysylltwch â ni i drafod.

 

Dewch am daith o’r tŷ…

 

Yn y prif dŷ, fe ddewch o hyd i’r ystafelloedd canlynol:

Ystafell 1: Frances

Gwely maint brenin, gydag en-suite

Ystafell 2: Lloyd George

Gwely maint brenin, gydag en-suite

Ystafell 3: Ystafell Ddirgel

Gwely dwbl, toiled preifat, rhannu ystafell ymolchi

Ystafell 4: Portmeirion

Gwely dwbl, gydag en-suite

Ystafell 5: Clough

Gwely dwbl, gydag en-suite

Ystafell 6: Dafydd y Garreg Wen

Gwely dwbl, rhannu ystafell ymolchi

 

Yn Hafoty, ein adeilad allannol, fe ddewch o hyd i’r ystafelloedd canlynol:

Ystafell 7: Coetiws

Ystafell hygyrch gyda gwely dwbl ac ystafell wlyb i’w rhannu

Ystafell 8: Llaethdy

Ystafell hygyrch gyda gwely sengl ac ystafell wlyb i’w rhannu

Ystafell 9: Gillian

Gwely dwbl gydag en-suite (bath) – ystafell diwtor

Ystafell 10: Dwyfor

Gwely dwbl gydag en-suite – ystafell diwtor

Ystafell 11: Lôn Goed

Gwely dwbl, rhannu ystafell ymolchi

Ystafell 12: R. S. Thomas

Gwely dwbl, rhannu ystafell ymolchi

Ystafell 13: Cae Llo Brith

Gwely sengl gydag en-suite

Ystafell 14: Yr Ardd

Gwely maint brenin gydag en-suite

 

Nant

Dwy ystafell hefo gwlâu maint brenin ac ystafell ymolchi i’w rhannu, gyda defnydd llawn o holl gyfleusterau’r bwthyn (cegin ac ystafell fyw fawr, agored, ar y llawr gwaelod).

Mae Nant, ein bwthyn encil sydd ar y safle, yn aml yn cael ei ddefnyddio gan awduron sydd yn gweithio ar eu prosiectau eu hunain tu hwnt i’n cyrsiau arferol. O bryd i’w gilydd, bydd Nant ar gael ar gyfer rhai cyrsiau ac encilion.