Ysgrifennu Caneuon: Geiriau, Alaw ac Ystyr

Gwe 9 Ebrill 2027 - Sul 11 Ebrill 2027
Tiwtoriaid / Cerys Hafana & anrimeal
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Ysgrifennu Caneuon
Iaith / Dwyieithog

Ymunwch â’r cantorion-gyfansoddwyr Cerys Hafana ac anrimeal am benwythnos o sgwennu caneuon, cerddoriaeth, rhythm a barddoniaeth. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn cael anogaeth i archwilio natur cerddorol geiriau, posibiliadau llais a rhythm, a’r ffyrdd y gall sain siapio ystyr wrth i chi weithio tuag at greu cân orffenedig a fydd yn cyffroi, yn herio ac yn mynnu sylw eich cynulleidfa. Mewn amgylchedd cefnogol, rhyngweithiol ac agos atoch, bydd Cerys ac Ana yn eich helpu i ddatblygu’ch geiriau, archwilio alaw a dod o hyd i’r siâp cerddorol fydd yn cario’ch geiriau.

P’un a ydych chi wedi hen sefydlu fel canwr-gyfansoddwr ac yn awyddus i ddatblygu deunydd newydd, yn awdur heb brofiad cerddorol sy’n chwilio am fynegiant creadigol newydd, neu’n gerddor sydd eisiau archwilio’r posibiliadau o ysgrifennu’ch geiriau eich hun, mae’r cwrs yma wedi’i gynllunio er mwyn i chi allu cymryd rhan lawn.

Bydd y penwythnos yn cynnwys gweithdai grŵp, tiwtorialau un-i-un, a chyfleoedd i wrando, arbrofi a pherfformio mewn lleoliad cynhyrfus a chyfeillgar. Pan fydd modd, anogir cerddorion i ddod â’u hofferynnau eu hunain gyda nhw.

Cwrs dwyieithog yw hwn, gyda’r sesiynau’n cael eu harwain yn Saesneg yn bennaf. Bydd Cerys wrth law i gynnig arweiniad ac adborth yn Gymraeg, ac mae anogaeth i gyfranogwyr ddod â gwaith Cymraeg gyda nhw i’w ddatblygu ar y cwrs.

Tiwtoriaid

Cerys Hafana

Telynor teires a chyfansoddwr o Gymru ydy Cerys Hafana, sy'n manglo, yn treiglo ac yn trawsnewid cerddoriaeth draddodiadol. Maen nhw'n archwilio posibiliadau creadigol deunydd archifol, caneuon gwerin a salmau, yn ogystal â chreu cyfansoddiadau gwreiddiol. Dewiswyd eu halbwm ddiweddaraf, Angel, (Glitterbeat Records, 2025), fel un o albymau gorau’r flwyddyn gan The Wire yn 2025, ac yn ddiweddar cafodd ei rhoi ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig.  

anrimeal

anrimeal yw prosiect recordio'r artist Ana Rita de Melo Alves, a aned yn Porto ac sy'n byw yn Llundain. Mae Ana yn gweithio'n bennaf ar ei phen ei hun gyda chyfarpar syml, yn creu canweddau ymdrochol sy'n cynnal teimlad DIY a deunydd emosiynol crai eu tarddiad, ac sy'n gyforiog o gyfeiriadaeth ac ystyr, er eu bod wedi'u claddu'n ddwfn ar adegau. 

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811