Awdur cyffro trosedd modern a hanesyddol sydd wedi bod ar restrau'r gwerthwyr gorau yw Abir Mukherjee. Mae ei lyfrau wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys Nofel Drosedd y Flwyddyn Theakstons, y Prix du Polar Européen a Nofel Drosedd a Chyffro'r Flwyddyn yng Ngwobrau Llyfrau Prydain. Mae hefyd yn gyd-gyflwynydd podlediad Murder Junction y Red Hot Chilli Writers sy'n bwrw golwg smala ar fyd llyfrau, ysgrifennu a throseddau go iawn.
Ffuglen Trosedd: cadw’r darllenydd ar bigau’r drain
Sut mae llunio nofel drosedd sy’n sicrhau bod darllenwyr yn dal i droi’r dalennau ac yn dal i ddyfalu? Ymunwch â’r awduron trosedd sydd wedi bod ar restrau’r gwerthwyr gorau, Abir Mukherjee ac Erin Kelly, am wythnos ddwys yn archwilio cyfrinachau ysgrifennu gwaith trosedd a chyffro.
O’r digwyddiad amheus cyntaf i’r dadleniad mawr, cewch archwilio sut i ddatblygu gwaith dirgelwch perswadiol, creu cymeriadau dan amheuaeth a chymhellion credadwy, rheoli’r hyn mae eich darllenydd yn ei wybod, a phlannu cliwiau sy’n gwobrwyo darllenwyr am dalu sylw heb ddatgelu’r cyfan. Byddwch chi’n archwilio adroddwyr annibynadwy, gwrthdroadau, cliwiau camarweiniol a chrefft y tro yn y gynffon, yn ogystal â’r gwahanol fecanweithiau sy’n gyrru gweithdrefnau’r heddlu, tyndra yn y cartref a chyffro seicolegol.
Drwy dasgau ymarferol, gweithdai a thiwtorialau un-i-un, bydd Abir ac Erin yn eich helpu i ddatblygu plot a chymeriad ar yr un pryd, cynyddu’r risgiau, cynnal tyndra a strwythuro datguddiadau i gael yr effaith fwyaf. Byddwn hefyd yn edrych ar diriogaeth dywyllach trosedd: cyfrinachau, brad, trais, euogrwydd a’r canlyniadau pan ddaw’r gwir i’r golwg.
Dewch â syniad, gwaith sydd ar y gweill neu blot trafferthus, a gadewch gyda dulliau newydd ar gyfer eich gwaith fydd yn sicrhau bod eich darllenwyr yn sownd yn eich stori.
Tiwtoriaid
Abir Mukherjee
Erin Kelly
Mae Erin Kelly yn un o'r lleisiau mwyaf uchel eu parch sy'n ennyn canmoliaeth y beirniaid ym myd ysgrifennu trosedd cyfoes. Mae wedi bod ar restr gwerthwyr gorau' The Sunday Times, a hithau'n awdur The Poison Tree (Hodder & Stoughton, 2010), a gafodd ei throi'n ddrama fawr ar ITV, a He Said/She Said (Hodder & Stoughton, 2017), a dreuliodd chwech wythnos yn y deg uchaf ac a gyrhaeddodd y rhestr hir ar gyfer Gwobr Nofel Drosedd y Flwyddyn Theakston's Old Peculier. Bu Watch Her Fall (Hodder & Stoughton, 2021) hefyd ar restr hir gwobr Theakston, tra bu The Skeleton Key (Hodder & Stoughton, 2022) ar restr deg gwerthwr gorau The Sunday Times ac ar frig rhestr gwerthwyr gorau clawr meddal The Times, gan ennill gwobr Llyfr Chwalu Genres y Flwyddyn yng Ngwobrau Capital Crime Fingerprint 2023. Mae ei nofel ddiweddaraf, y nofel gyffro gothig The Night Stairs (Harvill, 2026), allan nawr. Mae Erin hefyd wedi gweithio'n helaeth fel newyddiadurwr ac wedi gweithio i Curtis Brown Creative yn dysgu ysgrifennu creadigol.
Darllenydd Gwadd
Kate London (Digidol)
Mae Kate London yn ferch i sarsiant yn yr RAF a threuliodd flynyddoedd cyntaf ei bywyd yn byw ar faes canolfan awyrlu yn yr Almaen. Ar ôl hynny bu’n byw yn Stoke on Trent, lleoliad ei chyfres ddiweddaraf sydd â chytundeb cyhoeddi tair cyfrol. Cyhoeddwyd y llyfr cyntaf yn y gyfres, Black Earth (Firefinch Publishing), ar 5 Tachwedd 2026. Mae gan Kate radd mewn hanes o Brifysgol Caergrawnt. Ar ôl hyfforddi ym Mharis a gweithio yn y theatr fel actor, awdur a chyfarwyddwr, ymunodd â gwasanaeth Heddlu’r Met. Gorffennodd ei gwasanaeth yn gweithio fel ditectif yn uned llofruddiaeth y Met ond ymddiswyddodd yn 2014 i ganolbwyntio ar ei hysgrifennu. Yn 2019 daeth ei stori fer, ‘We Do Not Deal In Guilt or Blame’, yn ail yng nghystadleuaeth straeon byrion Harper’s Bazaar yn 2019. Hi yw awdur pedwar llyfr yn ei chyfres Tower (Firefinch Publishing), lle bu’n gynhyrchydd gweithredol pan gawsant eu haddasu a’u darlledu gan ITV. Y llynedd roedd hi’n ymgynghorydd stori ar gyfres newydd ITV, Two Birds. Mae ei chyfres deledu newydd ei hun yn cael ei datblygu ar hyn o bryd.