Bardd o Benygroes, Dyffryn Nantlle ydy Carwyn Eckley. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i bartner Siân a’u ci, Bleddyn, ac yn gweithio fel newyddiadurwr gydag Adran Gymraeg ITV Cymru, sy’n cynhyrchu Y Byd ar Bedwar ac Y Byd yn ei Le. Sbardunwyd ei gariad at lên pan dderbyniodd gopi o lyfr Harry Potter gan ei fam yn hogyn ifanc, cyn ymddiddori mewn barddoniaeth dan arweiniad Ms Eleri Owen yn Ysgol Dyffryn Nantlle. Astudiodd Gymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth a dysgodd grefft cynganeddu mewn gwersi gydag Eurig Salisbury. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Rhyng-golegol yn ei drydedd flwyddyn yno, cyn ennill Gadair Eisteddfod yr Urdd yn 2020-21, ac yna Cadair Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn 2024. Yn 2025 cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Trochi (Gwasg Carreg Gwalch, 2025), wnaeth ennill Gwobr Barn y Bobl yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn 2026. Mae’n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Dros yr Aber, ac mae ganddo ddiddordeb mewn pêl-droed a theithio.
Cwrs Undydd: Dod o hyd i dy lais barddol
Beth sy’n gwneud cerdd yn un unigryw i ti? Sut mae datblygu llais sy’n teimlo’n onest, yn hyderus ac yn wreiddiol? Yn ystod y cwrs undydd hwn, bydd y bardd Carwyn Eckley yn eich arwain drwy gyfres o weithdai creadigol a thrafodaethau fydd yn eich helpu i archwilio a datblygu eich llais barddol.
Gan ddefnyddio ymarferion ysgrifennu, dadansoddi cerddi, a rhannu syniadau, byddwch yn edrych ar sut mae profiadau personol, diddordebau, iaith a dylanwadau llenyddol yn siapio’r gwaith rydym yn ei greu. Bydd cyfle i arbrofi gyda ffurf, delweddau, sain a rhythm, gan ddarganfod ffyrdd newydd o fynegi syniadau ar y dudalen.
Mae’r cwrs yn addas i feirdd ar bob cam o’u taith ysgrifennu, pu’n a’i rydych yn dechrau arni neu’n chwilio am bersbectif newydd ar eich gwaith. Mewn amgylchedd croesawgar a chefnogol, cewch amser i ysgrifennu, myfyrio a rhannu syniadau ag eraill.
Bydd te, coffi a byrbrydau ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.
Gyda diolch i Gronfa Cefnogi Celfyddydau Gwynedd 2027-28 am gefnogi’r cyrsiau hyn yn Nhŷ Newydd.
Tiwtor