Perfformio Barddoniaeth: Ysgrifennu i gael dy Glywed

Gwe 28 Mai 2027 - Sul 30 Mai 2027
Tiwtoriaid / Laurie Bolger & Hollie McNish
Darllenydd Gwadd / Tia-Zakura Camilleri (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Perfformio Barddoniaeth
Iaith / Saesneg

Fel un o’r ffurfiau mwyaf bywiog ar fynegiant creadigol, mae’r gair llafar yn tynnu ynghyd farddoniaeth, adrodd straeon, perfformio a sgwrsio. Ymunwch â’r beirdd, y perfformwyr a’r hwyluswyr clodwiw Hollie McNish a Laurie Bolger am benwythnos arbennig yn archwilio posibiliadau’r genre.

Dros y penwythnos, bydd Hollie a Laurie yn eich tywys i ddatblygu eich llais eich hun, siapio eich syniadau ar gyfer y dudalen a’r llwyfan, a darganfod technegau ar gyfer rhannu eich gwaith yn hyderus. Drwy gymysgedd o ymarferion ysgrifennu, trafod, darllen, gwrando a chyfleoedd perfformio dewisol, byddan nhw’n creu gofod cefnogol a chynnig anogaeth lle mae arbrofi’n cael ei ddathlu a lle gall pawb gymryd rhan ar eu cyflymder eu hunain. Byddwch yn cael eich gwahodd i chwarae gyda rhythm, sain, strwythur ac adrodd straeon, gan ddod o hyd i ddulliau ffres o ysgrifennu a pherfformio sy’n teimlo’n ddilys i chi.

Does dim disgwyliad bod gennych brofiad blaenorol, na dim pwysau i berfformio. Mae’r cwrs yn agored i awduron, perfformwyr, darllenwyr ac unrhyw un sy’n chwilfrydig am y gair llafar a llenyddiaeth fyw. Dewch yn barod i ysgrifennu, gwrando, chwerthin, cymryd risgiau creadigol a chysylltu â chyfranogwyr eraill yn amgylchedd ysbrydoledig Tŷ Newydd.

Mae croeso cynnes i bob lefel o brofiad.

Tiwtoriaid

Laurie Bolger

Bardd a chyflwynydd sy'n byw yn Llundain yw Laurie Bolger, a sylfaenydd 'The Creative Writing Breakfast Club' a 'Poetry in Pyjamas', sydd ill dau wedi cael clod rhyngwladol. Mae gwaith Laurie wedi ymddangos ar draws Gŵyl Glastonbury, newyddion byd-eang y BBC, Channel 4 a Sky Arts. Mae Laurie wedi cyrraedd rhestr fer amrywiol wobrau gan gynnwys Bardd Ifanc Llundain, Gwobr Sylvia Plath, Gwobr Bridport a Gwobr Forward, a dyfarnwyd Gwobr Farddoniaeth Moth iddi oedd yn cael ei beirniadu gan yr enillydd gwobr Nobel, Louise Glück. Mae ei chyhoeddiadau’n cynnwys Box Rooms (Llyfrau Burning Eye, 2016), Makeover (The Emma Press Poetry Pamphlets, 2024), a Spin (Poetry Business, 2024). Mae ei chasgliad llawn diweddaraf, Lady (Nine Arches, 2025), yn archwilio gwydnwch, hunaniaeth, cymuned a chysylltiad. Ar hyn o bryd mae'n arwain amryw weithdai ac encilion gan annog cyfranogwyr i sgriblo yn eu lleisiau a'u steil unigryw eu hunain.  www.lauriebolger.com | Instagram: @lauriebolger_ | X: @lauriebolger 

Hollie McNish

Bardd ac awdur sy'n byw rhwng Caergrawnt a Glasgow yw Hollie McNish. Hi oedd y bardd cyntaf i recordio yn Stiwdios Abbey Road, Llundain, ac enillodd Wobr Ted Hughes am Waith Newydd mewn Barddoniaeth am ei chofiant barddonol am fod yn rhiant – Nobody Told Me (Blackfriars, 2016) – gyda The Scotsman yn cyfeirio at ei chofiant gan ddweud 'Mae angen y llyfr yma ar y byd'. Mae wedi cyhoeddi pum casgliad arall o farddoniaeth – Papers (Greenwich Exchange, 2012), Cherry Pie (Llyfrau Burning Eye, 2015), Plum (Picador, 2017), a Slug (Fleet, 2022) a Lobster (Fleet, 2025), y ddau wedi bod ar restrau gwerthwyr gorau The Sunday Times, gyda chyfieithiadau yn Ffrangeg (Je Souhaite Seulement Que Tu Fasses Quelquechose De Toi) a Sbaeneg (Cosas Que Mis Abuelas). Mae wrth ei bodd yn ysgrifennu. Ei chyfrol ddiweddaraf yw Virgin (Fleet, 2025). 

Darllenydd Gwadd

Tia-Zakura Camilleri (Digidol)

Awdur, gwneuthurwr theatr a bardd llafar o Gaerdydd yw Tia-zakura Camilleri. Mae gwaith Tia yn archwilio benyweidd-dra, croestoriadedd a phrofiad y diaspora Du ym Mhrydain, gan ddwyn ysbrydoliaeth o'r dulliau adrodd straeon sy'n cael eu defnyddio mewn Hip-Hop. Ochr yn ochr â'i chyrhaeddiad ar y cyfryngau cymdeithasol, mae Tia wedi perfformio i gynulleidfaoedd ledled y wlad mewn gwyliau ac ar lwyfannau eiconig. Yn ddiweddar, bu ar y llwyfan yn y Roundhouse, lle cyrhaeddodd rownd derfynol slam farddoniaeth fwyaf gwledydd Prydain. Mae'n cael ei hysgogi gan angerdd dwfn am gymuned, ac mae'n ymroddedig i wneud barddoniaeth yn fwy hygyrch ar gyfer grwpiau ifanc sydd wedi'u gwthio i’r cyrion drwy hwyluso gweithdai a chynnal nosweithiau meic agored yng Nghaerdydd. Y llynedd, agorodd gwaith cyntaf Tia fel dramodydd, Girl-Coded, cynhyrchiad theatr gair llafar, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Cyhoeddwyd gwaith gan Tia pan oedd yn 18 oed, ac mae wrthi ar hyn o bryd yn datblygu ei phamffled unigol cyntaf, Dad, don’t read this. 

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811