Mae Fiona Benson yn byw yn Nyfnaint gyda’i gŵr a’u dwy o ferched. Midden Witch (Jonathan Cape, 2025) yw ei phedwerydd casgliad ac mae wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Laurel. Cyn hyn cyhoeddodd Bright Travellers (Jonathan Cape, 2014), a enillodd wobr casgliad cyntaf Seamus Heaney a Gwobr Goffa Geoffrey Faber, Vertigo & Ghost (Jonathan Cape, 2019) sef enillydd Gwobr Farddoniaeth Roehampton a Gwobr Forward am y Casgliad Gorau, ac Ephemeron (Jonathan Cape, 2022). Yn ddiweddar mae hi wedi cyfrannu fel golygydd a chyfieithydd barddoniaeth i We Were Here (2024) gan Artur Dron, a Dasein (2025) gan Yaryna Chornohuz – ill dau gyda Gwasg Jantar. Mae hi wrthi’n gweithio ar gasgliad cyntaf Fedir Rudyi The Position gyda’i chyd-gyfieithydd Victor Shepelev. Mae’n dderbynnydd Gwobr Chomondeley ac yn Gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol.
Trawsnewid Trwy Farddoniaeth
Ar y cwrs preswyl ysbrydoledig yma, mae’r beirdd clodwiw Fiona Benson a Nikita Gill yn eich gwahodd chi i archwilio grym barddoniaeth i adennill straeon, ail-siapio mythau a thrawsnewid ein dealltwriaeth ohonon ni’n hunain a’r byd o’n cwmpas.
Gan ddefnyddio eu syniadau a’u diddordebau yn eu gwaith, byddwn ni’n archwilio’r mythau a’r straeon sydd wedi ein siapio ni ac yn gofyn beth sy’n digwydd pan fyddwn ni’n eu tynnu’n ddarnau, yn eu herio ac yn eu hadrodd mewn modd gwahanol. Byddwn ni’n ystyried y corff fel safle ar gyfer cof, profiad, pŵer a phosibiliadau, ac yn edrych tuag allan at y tirweddau a’r byd natur sydd o’n cwmpas. Sut gallai barddoniaeth ein helpu ni i ailystyried ein perthynas â lle, yr amgylchedd, a’r byd mwy-na-dynol?
Drwy weithdai, ymarferion ysgrifennu, darllen manwl a thrafodaeth, byddwn ni’n ymchwilio i sut gall iaith, delwedd a ffurf newid persbectif a chreu posibiliadau newydd. Byddwn ni’n chwarae gyda naratifau sydd wedi’u hetifeddu ac yn archwilio sut gall y personol ddod yn rhywbeth mwy o faint, mwy rhyfedd a mwy pwerus ar y dudalen.
Bydd yna le i ddatblygu gwaith presennol a chreu cerddi newydd, gydag anogaeth i arbrofi, i gymryd risgiau, ac i ddarganfod beth sy’n digwydd pan fyddwn ni’n adennill y straeon rydyn ni wedi’u clywed ac yn dechrau adrodd ein straeon ein hunain. Os hoffech ddwysáu eich arfer, canfod cyfeiriad newydd, neu ymgolli mewn barddoniaeth, dyma gyfle i ysgrifennu’n feiddgar, darllen yn hael, a darganfod posibiliadau trawsnewidiol eich llais eich hunan.
Tiwtoriaid
Fiona Benson
Nikita Gill
Mae Nikita Gill wedi ysgrifennu a darlunio saith casgliad o farddoniaeth sydd wedi bod ar restrau’r gwerthwyr gorau a thair nofel mewn barddoniaeth, gan gynnwys Hekate (Llyfrau Solstice, 2026) oedd ar restr gwerthwyr gorau’r Sunday Times ac ar frig rhestr y New York Times. Mae Gill wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer CLIPPA, Gwobrau Dewis Goodreads, a Gwobr Jhalak. Mae ei gwaith wedi ymddangos yn The New York Times, The Guardian, The Sunday Times, BBC Radio 4, y Financial Times, Marie Claire, Stylist a mwy.
Darllenydd Gwadd
Gustav Parker Hibbett (Digidol)
Awdur ysgrifau a bardd Du yw Gustav Parker Hibbett a adawodd eu gradd MFA cyn graddio. Enillodd eu casgliad cyntaf o gerddi, High Jump as Icarus Story (Banshee Press, 2024), Wobr Barddoniaeth Ryngwladol Sefydliad John Pollard a chyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr T.S. Eliot, ymhlith anrhydeddau eraill. Mae eu gwaith wedi cael ei gyhoeddi’n eang ar draws cyfnodolion a blodeugerddi, gan gynnwys blodeugerdd Best of the Net 2026, ac mae eu barddoniaeth wedi cael ei chyfieithu i Swedeg, Almaeneg, Sbaeneg ac Eidaleg. Nhw oedd Awdur Comisiwn 2025 ar gyfer Oriel a Stiwdios Temple Bar, ac maen nhw wedi cwblhau PhD yn ddiweddar mewn Arfer Llenyddol yng Ngholeg y Drindod Dulyn. Maen nhw wedi bod yn ddarllenydd barddoniaeth i Banshee ers 2023.