Dechrau dy Siwrne fel Awdur

Llu 2 Awst 2027 - Gwe 6 Awst 2027
Tiwtoriaid / Tiffany Murray & Owen Sheers
Darllenydd Gwadd / Ashley Hickson-Lovence (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genres / aml-genreBarddoniaethFfuglen
Iaith / Saesneg

“Rwy’n trigo mewn posibilrwydd.” – Emily Dickinson

Mae gennych chi syniadau, straeon rydych chi eisiau eu hadrodd, neu lyfr nodiadau sy’n llawn tameidiau anorffenedig hyd yn oed. Ond sut mae troi’r wreichionen gychwynnol yna’n arfer ysgrifennu cynaliadwy?

Dan arweiniad yr awduron clodwiw Owen Sheers a Tiffany Murray, mae’r wythnos groesawgar yma sy’n croesi genres wedi’i chynllunio ar gyfer y rhai sydd ar ddechrau eu taith ysgrifennu, p’un a ydych chi’n cymryd eich camau cyntaf ar y dudalen neu’n gobeithio meithrin hyder yn eich gwaith creadigol.

Drwy gyfuniad o weithdai, ymarferion ysgrifennu a thiwtorialau un i un, byddwch chi’n darganfod ffyrdd newydd o gynhyrchu, siapio a datblygu eich syniadau. Gan weithio ar draws ffuglen, ffeithiol a barddoniaeth, byddwch chi’n cael eich annog i arbrofi gyda gwahanol ffurfiau, i archwilio dulliau newydd o adrodd straeon, ac i ddod o hyd i’r ymagweddau creadigol sy’n gweithio orau i chi.

Gyda’n gilydd, byddwn ni’n archwilio elfennau hanfodol crefft awdur: cymeriad, lleoliad, stori, llais, rhythm, iaith, strwythur a ffurf. Byddwn ni hefyd yn canolbwyntio ar sgìl sy’n aml yn cael ei diystyried: dysgu sut i olygu, mireinio ac ail-ddychmygu eich gwaith, er mwyn sicrhau’r fersiwn orau bosib.

Yn gwrs cefnogol, ysgogol a hwyliog, byddwch yn cael amser, lle ac anogaeth i ymgolli yn eich ysgrifennu, i gysylltu ag awduron eraill, ac i ddatblygu’r hyder i barhau ymhell ar ôl i’r wythnos ddod i ben. Os ydych chi’n breuddwydio am ysgrifennu cerddi, straeon byrion, hunangofiant neu rywbeth cwbl unigryw, dyma gyfle i ddarganfod lle gallai eich ysgrifennu fynd â chi.

Tiwtoriaid

Tiffany Murray

Cafodd hunangofiant Tiffany Murray, My Family and Other Rock Stars (Little, Brown Book Group, 2024), ei alw’n llyfr y flwyddyn gan  The Sunday Times,  The Guardian a The Independent. Mae hi wedi addasu’r gwaith ar gyfer y teledu gyda Kite Entertainment. Mae ei nofelau, Diamond Star Halo (Granta Books, 2011), Happy Accidents (Harper Collins, 2005), a Sugar Hall (Seren Books, 2014) yn eu tro wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Wodehouse Bollinger ac wedi cael Gwobr Roger Deakin am ysgrifennu natur. Mae hi wedi bod yn Gymrawd Rhyngwladol Ffuglen Gŵyl y Gelli, yn ysgolhaig Fulbright, yn Uwch Ddarlithydd, ac mae ei drama sydd wedi’i gosod yng Ngwlad yr Iâ – Hulda’s Café – ar gael ar BBC Sounds. Mae Tiffany’n gyfarwyddwr prosiect ar raglen ddatblygu lwyddiannus Gŵyl y Gelli, ‘Awduron wrth eu Gwaith.’ www.curtisbrown.co.uk/client/tiffany-murray  

Owen Sheers

Bardd, awdur a dramodydd clodwiw yw Owen Sheers. Mae wedi ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn ddwywaith, wedi cael Gwobr Ddiwylliant Dewi Sant 2016 a Gwobr Farddoniaeth Wilfred Owen 2018. Ymhlith ei gyhoeddiadau barddonol mae The Blue Book (Seren Books, 2000), Skirrid Hill (Seren Books, 2005) a Pink Mist (Faber & Faber, 2014), a addaswyd ar gyfer y llwyfan gan Bristol Old Vic a’i chynnwys ar restr deg drama orau’r flwyddyn gan  The Guardian. Enillodd ei gerdd-ffilm ar gyfer y BBC The Green Hollow dair gwobr BAFTA Cymru, gan gynnwys am yr Awdur Gorau, a’i henwebu am wobr BAFTA. Cafodd To Provide All People, ei gerdd-ffilm ddiweddaraf, ei darlledu i nodi pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 70. Ymhlith ei waith dramatig arall mae The Passion a Mametz, ar gyfer National Theatre Wales, a The Two Worlds of Charlie F., a enillodd wobr Rhyddid Mynegiant Amnest Rhyngwladol. Mae’n awdur dwy nofel, Resistance ac I Saw A Man (ill dwy wedi’u cyhoeddi yn 2016 gan Faber & Faber), a chafodd ei ddrama deledu ddiweddaraf, The Trick, am ddigwyddiadau’r sgandal hinsawdd ‘climategate’ yn 2009, ei henwebu am wobr ffilm orau BAFTA Cymru. Mae’n gyn Gymrawd Cullman yn Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd, yn Gennad WalesPENCymru, yn Athro Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn gyd-sylfaenydd Coleg y Mynydd Du, coleg newydd sy’n canolbwyntio ar newid systemau a dyfodol cynaliadwy. Bydd ei nofel nesaf yn cael ei chyhoeddi gan Faber & Faber yn 2028.  

Darllenydd Gwadd

Ashley Hickson-Lovence (Digidol)

Ashley Hickson-Lovence yw awdur y nofelau clodwiw The 392 (OWN IT!, 2020), Your Show (Faber, 2023) a Wild East (Penguin, 2024), prif enillydd Gwobrau Llyfrau Dwyrain Anglia 2024 ac enillydd oedolion ifanc Gwobrau Llyfrau Amrywiol 2025. Cyrhaeddodd ei gasgliad o farddoniaeth Why I Am Not a Bus Driver (Bad Betty Press, 2025) y rhestr fer ar gyfer Gwobr Farddoniaeth Jhalak ac mae’n cynnwys y gerdd ‘Munster Road’, a gafodd ganmoliaeth uchel am y Gerdd Unigol Orau yng Ngwobr Forward. Mae ganddo radd PhD mewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol gan Brifysgol Dwyrain Anglia a chafodd ei enwebu am Wobr Rhagoriaeth Ddu am Gyfraniad Rhagorol i Lenyddiaeth yn 2023. Cyhoeddwyd ei nofel ddiweddaraf, About to Fall Apart, gan Faber & Faber ym mis Ebrill 2026, a bydd ei nofel farddoniaeth newydd i oedolion ifanc, Dead Ends, yn cael ei chyhoeddi gan Penguin ym mis Chwefror 2027. 

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811