Awdur a newyddiadurwr clodwiw o Lundain yw Ella Risbridger. Gyda’i gwaith wedi ymddangos yn The Financial Times, The Guardian, The Observer, Vogue a sawl lle arall, mae ei llyfrau’n amrywio o lyfrau coginio i lyfrau lluniau, o farddoniaeth i gasgliadau o ysgrifau. Enillodd ei llyfr cyntaf, Midnight Chicken (& Other Recipes Worth Living For) (Bloomsbury Publishing, 2019), wobr Llyfr Coginio’r Flwyddyn yng Ngwobrau Urdd yr Awduron Bwyd, a chafodd ei enwi’n llyfr y flwyddyn mewn sawl cyhoeddiad ar y ddwy ochr i’r Iwerydd. Cafodd ei disgrifio gan The Times fel "awdur mwyaf dawnus ei chenhedlaeth", sydd bob amser yn braf ei glywed. Ella yw crëwr ‘You Get In Love And Then...?’, sef cylchlythyr llwyddiannus sydd â miloedd o bobl yn talu am danysgrifiad; ac mae’n rhannol berchen ar gath oren dew. Mae’n byw wrth y môr gyda’i gŵr a’r gath dew honno. Roedd ei llyfr diweddaraf, The Kitchen Book: Good Food For Every Day (HarperCollins, 2026), ar restr gwerthwyr gorau The Sunday Times yn syth, a dylech ei brynu os nad ydych chi wedi gwneud hynny’n barod!