Awdur Nigeriaidd-Prydeinig clodwiw yw Irenosen Okojie, y mae ei gwaith yn gwthio ffiniau ffurf, iaith a syniadau. Mae ei nofelau, Curandera (Gwasg John Murray, 2021), Butterfly Fish (Jacaranda Books, 2015), a’i chasgliadau o straeon byrion, Speak Gigantular (Jacaranda Books, 2016) a Nudibranch (Gwasg John Murray, 2020), wedi cael eu henwebu ac wedi ennill sawl gwobr. Mae ei gwaith ysgrifennu wedi ymddangos yn The New York Times, Vanity Fair, The Observer, The Guardian a’r Huffington Post. Roedd hi’n cyd-gyflwyno podlediad Turn Up for The Books y BBC, ochr yn ochr â Simon Savidge a lleisydd Bastille, Dan Smith. Mae ei gwaith wedi cael ei brynu ar gyfer y sgrin. Mae hi wedi beirniadu sawl gwobr lenyddol gan gynnwys Gwobr Stori Fer Genedlaethol y BBC a Gwobr Lenyddol Dulyn. Roedd hi’n feirniad ar gyfer Gwobr Ffuglen y Menywod 2023. Yn gyn Is-gadeirydd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol, cafodd MBE am Wasanaethau i Lenyddiaeth yn 2021 a’i dewis fel rhywun dawnus sydd â gweledigaeth ar restr ‘The Next 25 Visionaries to Watch’. Mae’n gyfarwyddwr ac yn sylfaenydd Gŵyl Black to the Future a hi oedd Cadeirydd Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2026. Ei llyfr diweddaraf yw Quixotic Fissures (2026), a gyhoeddwyd gan Dialogue Books.
Wythnos Ffuglen Fer: Sgwennu Cryno, Syniadau Mawr
Ymunwch â’r awduron clodwiw Irenosen Okojie ac Ayisha Malik yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ar gwrs lle cewch ymdrochi yng nghelfyddyd a chrefft y stori fer.
Yn ystod yr wythnos ddwys, byddwch yn cael eich annog i arbrofi, cymryd risgiau a darganfod posibiliadau newydd yn eich gwaith ysgrifennu. Drwy weithdai, ymarferion ysgrifennu, darllen manwl a thrafodaeth grŵp, byddwn yn archwilio elfennau hanfodol ffuglen fer gymhellol: cymeriad, llais, strwythur, lleoliad, deialog, safbwynt a chreu tensiwn ac awyrgylch.
Sut ydych chi’n gwybod ble mae stori’n dechrau, a ble dylai orffen? Beth yw’r gwahaniaethau sylfaenol rhwng ffuglen ffurf fer a ffurf hir? Sut gall cymeriad eich synnu? Beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n tarfu ar gronoleg, yn symud persbectif, neu’n gadael rhywbeth heb ei ddweud? Gyda’n gilydd, byddwn ni’n ystyried sut gall awduron chwarae gyda ffurf, gan barhau i roi sylw i galon emosiynol stori.
Bydd Irenosen ac Ayisha yn defnyddio eu profiad ysgrifennu a chyhoeddi ffuglen fer eu hunain i gynnig arweiniad ymarferol, adborth meddylgar, a chefnogaeth unigol. Bydd yna gyfleoedd i rannu gwaith-ar-waith a chael ymatebion adeiladol mewn amgylchedd cefnogol a hael.
Os ydych chi’n datblygu eich straeon cyntaf neu’n gobeithio gwthio arfer sefydledig i gyfeiriad newydd, mae’r cwrs yma’n estyn gwahoddiad i chi fireinio eich crefft o ysgrifennu manwl a dathlu grym yr hyn sydd heb ei ddweud.
Tiwtoriaid
Irenosen Okojie
Ayisha Malik
Ayisha Malik yw awdur y nofelau clodwiw Sofia Khan is Not Obliged (twenty7, 2016), The Other Half of Happiness (Zaffre, 2017), This Green and Pleasant Land (Zaffre) a The Movement (Headline Publishing Group, 2022). Cafodd Ayisha ei dewis ar gyfer Fresh Talent Pick gan WHSmith ac roedd Sofia Khan yn llyfr CityReads London. Mae’n enillydd Gwobrau Llyfrau Amrywiol ac mae hi wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Cyflawniad Menywod Asiaidd, Gwobr Llunwyr y Dyfodol Marie Claire, a Gwobrau h100. Mae hi hefyd wedi cael Ysgoloriaeth Deithio y Gymdeithas Awduron. Mae Ayisha wedi bod yn ddarlithydd ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Caer-wynt. Mae’n rhan o’r Academi Ysgrifennu Proffesiynol a thîm Ymgynghori Llenyddol Cornerstones, ac mae hi wedi arwain cyrsiau ffuglen ar gyfer Academi Faber a Curtis Brown Creative. Mae hi wrthi’n gweithio ar ei phumed nofel ac yn addasu ei nofel gyntaf ar gyfer y teledu.
Darllenydd Gwadd
Sarah Hall (Digidol)
Mae Sarah Hall yn awdur saith nofel, tri chasgliad o straeon byrion a darlith Faber & Faber 2026, Burning Snowflake: Nature, Writing, Rebellion (Faber & Faber). Mae hi wedi ennill sawl gwobr, wedi cael ei henwebu ddwywaith am Wobr Booker, a hi yw’r unig awdur sydd wedi ennill Gwobr Stori Fer Genedlaethol y BBC a’r Wobr Portico ddwywaith. Mae’n Athro Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Manceinion ac yn Gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol. Yn 2025, ei nofel Helm (Faber & Faber, 2025) oedd y gwaith ffuglen cyntaf o Brydain i fod â nod ‘Human Written’ ar ei glawr, a gafodd ei ddylunio ganddi mewn cydweithrediad â’i chyhoeddwr.