Ysgrifennu Arswyd: Creu Ofn

Llu 25 Hydref 2027 - Gwe 29 Hydref 2027
Tiwtoriaid / Kirsty Logan & Lucy Rose
Darllenydd Gwadd / Catriona Ward (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Ffuglen
Iaith / Saesneg

Ydych chi’n cael eich atynnu at y rhyfedd, yr anarferol, yr od a’r aflonydd? Ymunwch â’r awduron llwyddiannus Kirsty Logan a Lucy Rose i ymgolli yn yr ochr dywyll.

Yn ystod yr wythnos breswyl yma, byddwn ni’n archwilio ffyrdd annisgwyl o ddatgloi ochr gudd eich dychymyg, o archwilio straeon llafar a’u dylanwad ar y genre arswyd, i leoliad a chymeriad (a sut gall un droi i mewn i’r llall), i ffurf eich geiriau a sut maen nhw’n ymddangos ar y dudalen.

Drwy gyfuniad o weithdai grŵp, trafodaethau, darllen manwl a thiwtorialau un i un, fe gewch gyfle i arbrofi gyda’ch ysgrifennu eich hun, datblygu syniadau newydd, a chael adborth unigol ar eich gwaith. Bydd digon o amser hefyd i ysgrifennu, darllen a dilyn eich dychymyg yn awyrgylch arbennig Tŷ Newydd.

Mae’r cwrs yma’n eich gwahodd i fod yn chwilfrydig am elfennau tywyllach eich straeon a chwestiynu a gwyrdroi’r rheolau sy’n cyfyngu eich ffuglen. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch chi’n deall sut mae pwysleisio elfennau mwy rhyfedd a swreal eich straeon drwy adeiladu’ch rhyddiaith yn dechnegol a’r gwaith adrodd emosiynol ac alegorïaidd sy’n gwneud arswyd mor gyffrous.

Os ydych chi eisoes yn ysgrifennu arswyd neu awydd archwilio posibiliadau tywyll a rhyfedd eich ffuglen, paratowch i fynd â’ch ysgrifennu i fannau annisgwyl.

Tiwtoriaid

Kirsty Logan

Llyfrau diweddaraf Kirsty Logan yw’r casgliad o straeon, No & Other Love Stories (Vintage Publishing, 2025), a’r cofiant, The Unfamiliar: A Queer Motherhood Memoir (Little, Brown Book Group, 2023). Mae hi hefyd yn awdur tair nofel, tri chasgliad o straeon, dau lyfryn drama sain ddeg awr i Audible, sawl prosiect cydweithredol gyda cherddorion ac artistiaid gweledol, a thua 300 o straeon byrion. Mae ei llyfrau wedi ennill neu wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau Shirley Jackson, Dylan Thomas, Frank O'Connor, Edge Hill, Lambda, Saltire, Saboteur, Ymddiriedolaeth Llyfrau yr Alban a Gavin Wallace. Mae ei gwaith wedi’i ddewis ar gyfer y teledu, wedi’i ddatblygu ar gyfer ffilm, wedi’i addasu ar gyfer y llwyfan, wedi’i recordio ar gyfer y radio a phodlediadau, wedi’i arddangos mewn orielau, ac wedi’i ddosbarthu o hen beiriant sigaréts Wurlitzer. Mae hi wrthi’n cydweithio ar sawl prosiect ar draws ffilm, teledu, llyfrynnau cydweithredol, a pherfformiadau. 

Lucy Rose

Mae gwaith ffuglen a ffeithiol Lucy Rose wedi cael ei gyhoeddi gan Dread Central, Mslexia, The Observer, The Nerd Daily a mwy, ac mae ei ffilmiau wedi ymweld â gwyliau ffilm rhyngwladol sy’n gymwys ar gyfer gwobrau BAFTA ac Oscar. Mae hi hefyd wedi bod ar restr Forbes Under 30, ar restr fer Gwobr Ffuglen Books Are My Bag, yn enwebai ar gyfer Gwobr Shirley Jackson ac yn Enillydd Gwobr Nota Bene a Gwobr Somerset Maugham. Cyhoeddwyd nofel gyntaf Lucy, The Lamb (2025) – a gyrhaeddodd restr gwerthwyr gorau The Sunday Times – gan W&N Books ym Mhrydain a Harper yn yr Unol Daleithiau. Cafodd y nofel ei dewis ar gyfer Llyfr y Mis Foyles, ei henwi’n nofel gyntaf orau 2025 gan Cosmopolitan a Spotify, ei dewis ar gyfer Tea Time Book Club Dakota Johnson, cyrhaeddodd Rownd Derfynol Gwobr Dewis Goodreads, ac ennill Nofel Ffuglen Lenyddol y Flwyddyn Netgalley 2025. Mae Lucy yn byw ar arfordir gogledd-ddwyrain Lloegr gyda’i chath ddu, Figgy, ac mae wrthi’n gweithio ar ei stori nesaf.  

Darllenydd Gwadd

Catriona Ward (Digidol)

Awdur arswyd clodwiw yw Catriona Ward, y mae ei gwaith wedi ei sefydlu fel un o’r prif leisiau ym maes ffuglen dywyll gyfoes. Cafodd ei geni yn Washington, DC, a’i magu ar draws yr Unol Daleithiau, Kenya, Madagascar, Yemen a Moroco, astudiodd Saesneg yn Rhydychen ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Dwyrain Anglia. Mae’n awdur sawl nofel arswyd lwyddiannus, gan gynnwys Rawblood a Little Eve (cyhoeddwyd gan Orion Publishing), a The Last House on Needless Street, Sundial, Looking Glass Sound, a Nowhere Burning, sydd oll wedi’u cyhoeddi gan Profile Books. Mae ei nofelau wedi ennill sawl gwobr fawr yn eu genre, gan gynnwys Gwobrau August Derleth a Gwobr Shirley Jackson, ac enillodd Sundial y Wobr Awduron Cyffro Ryngwladol am y Nofel Orau. Mae Stephen King wedi canmol The Last House on Needless Street a Sundial, gan eu disgrifio fel gwaith arswyd eithriadol. Mae Catriona yn adnabyddus am gyfuno arswyd seicolegol, awyrgylch gothig, a throeon syfrdanol, ac mae ei llyfrau wedi cyrraedd rhestrau gwerthwyr gorau yn rhyngwladol, ac wedi’u cyfieithu i dros 30 o ieithoedd. Mae ei nofel nesaf, The Solitude (2027), yn stori gyffro ddystopaidd wedi’i gosod ar fordaith foethus, lle mae marwolaethau dirgel yn dechrau cronni. 

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811