Mae Sioned Erin Hughes yn awdur o Ben Llŷn. Cyhoeddodd y gyfrol Y Goeden Hud (Gwasg Carreg Gwalch) yn 2020, Rhyngom (Y Lolfa) yn 2022, O'r Rhuddin (Y Lolfa) yn 2024 a Fel y Moroedd (Cyhoeddiadau Barddas) yn 2025. Ym mis Tachwedd 2026 cyhoeddodd lyfr arall I blant, Y Môr ac Eli Moi (Gwasg Rily, 2026), a bydd Tegw a Begla (Gwasg Carreg Gwalch) yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2027. Mae Erin yn olygydd llawrydd, yn ymarferydd creadigol ac yn Gydlynydd i Gyhoeddiadau Barddas.
Cwrs Undydd: Ysgrifennu i Blant
Sut mae gweld y byd drwy lygad plentyn, a ninnau bellach yn oedolion? Dyma’r gamp y mae’r rhai sy’n ysgrifennu i blant yn ceisio ei meistroli.
Mewn byd o restrau to-do, talu biliau, gwirio e-byst, golchi llestri, bwcio apwyntiadau (ac yn y blaen, ac yn y blaen) mae’n hawdd credu bod diniweidrwydd, direidi a chwilfrydedd yn rhinweddau oedd yn perthyn i gyfnod pell yn ôl. Ond mae’r rhinweddau hyn yn dal ynom – yn agos at y wyneb weithiau, droeon eraill, mae angen cloddio’n ddyfnach.
Mae modd inni i gyd gael mynediad at y stôr liwgar, fywiog o bethau sy’n meddu dychymyg plentyn. Gyda chymorth gweithgareddau amrywiol, gallwn deimlo’r hud prin sy’n dod o deimlo ein ffordd drwy’r byd drwy lygad y rhai bach.
Bydd y diwrnod yn cael ei arwain gan yr awdur Sioned Erin Hughes, a fydd yn rhannu ei phrofiad o ysgrifennu a golygu llyfrau a chasgliadau ar gyfer plant o bob oed.
Bydd te, coffi a byrbrydau ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.
Gyda diolch i Gronfa Cefnogi Celfyddydau Gwynedd 2027-28 am gefnogi’r cyrsiau hyn yn Nhŷ Newydd.
Tiwtor