Cwrs Penwythnos Cymraeg: Ysgrifennu Creadigol i Ddysgwyr / Siaradwyr Newydd

Gwe 24 Medi 2027 - Sul 26 Medi 2027
Tiwtoriaid / Bethan Gwanas & Mared Lewis
Darllenydd Gwadd / Ewan Smith
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Dysgu Cymraeg
Iaith / Cymraeg

Cwrs ar gyfer dysgwyr Cymraeg sy’n hoffi ysgrifennu creadigol. Nid yn addas ar gyfer dechreuwyr oherwydd bydd pawb yn siarad Cymraeg drwy’r penwythnos, felly byddwch yn sicr yn gwella eich sgiliau sgwrsio, ond yr ysgrifennu fydd yn cael y sylw mwyaf. Rhaid i chi fod ar lefel Canolradd, Uwch neu Gloywi.

Byddwn yn rhoi tasgau ysgrifennu byr, amrywiol mewn grwpiau, a byddwn yn defnyddio pob math o bethau i’ch ysbrydoli, yn cynnwys siaradwr gwadd ar y nos Sadwrn. Bydd yn addysg ac yn hwyl!

Cofrestrwch rŵan/yn awr!

Gyda diolch i Gronfa Cefnogi Celfyddydau Gwynedd 2027-28 am gefnogi’r cyrsiau hyn yn Nhŷ Newydd.

Tiwtoriaid

Bethan Gwanas

Mae Bethan Gwanas yn awdur 54 o lyfrau poblogaidd, yn cynnwys trioleg Blodwen Jones i ddysgwyr. Bu’n athrawes Saesneg yn Nigeria, athrawes Ffrangeg yng Nghymru, cynhyrchydd gyda BBC Radio Cymru a dirprwy reolwr Gwersyll yr Urdd, Glan-llyn cyn dechrau ysgrifennu’n broffesiynol. 

Mared Lewis

Mae Mared Lewis yn byw ar Ynys Môn ac yn awdures brofiadol sy wedi ysgrifennu saith o nofelau i oedolion a llawer o nofelau i’r gyfres Amdani ar lefel Sylfaen ac Uwch (cyhoeddwyr gan Y Lolfa). Gyda phrofiad o sgriptio i gyfresi teledu a radio, mae Mared hefyd yn diwtor Cymraeg i Oedolion, ac yn mwynhau gwrando, sgwrsio a chael hwyl wrth helpu pobol i ddatblygu yn yr iaith. Yn ystod Y Cyfnod Clo, arweiniodd Mared gyfres o weithdai ysgrifennu stori fer ar lein, a chyhoeddwyd gwaith gwych y Dysgwyr rheiny yn y gyfrol Y Daith, sydd bellach yn rhan o gyfres Amdani. Mae hi wrth ei bodd yn cerdded, cyfarfod ffrindiau, a mynd i’r theatr.

Darllenydd Gwadd

Ewan Smith

Profodd Ewan Smith ei lwyddiant llenyddol cyntaf fel awdur yn y 1970au pan ysgrifennodd ffotostraeon ar gyfer cylchgronau merched fel Jackie. Ar yr un pryd, roedd yn ysgrifennu straeon trosedd gyda’r ditectif, Dixon Hawke, ar gyfer y Saturday Sporting Post yn Dundee. Enillodd gystadleuaeth Cosmopolitan UK fel 'Newyddiadurwr Ifanc y Flwyddyn' yn 1978, ac fe arweiniodd hyn at Ewan yn treulio cyfnod yn gweithio fel newyddiadurwr. Mae o’n ddysgwr Cymraeg ac yn ysgrifennu fwyfwy yn y Gymraeg. Yn 2021, enillodd cystadleuaeth barddoniaeth i ddysgwyr yn yr Eisteddfod Amgen. Ers hynny mae ganddo ddwy nofel i ddysgwyr Cymraeg wedi’u cyhoeddi gan Y Lolfa, Hen Ferchetan (2023) a Dim Ond Gêm (2026). Mae dwy o’i gerddi hefyd yn ymddangos yn Adar Y Nant, y casgliad o gerddi gan ddysgwyr Cymraeg a gyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch. Yn fwy diweddar, mae wedi datblygu diddordeb mewn ysgrifennu cerddi Cymraeg traddodiadol ac mae'n aelod o Dîm Tegeingl sy'n cymryd rhan yn Y Talwrn, y gystadleuaeth barddoniaeth flynyddol a ddarlledir ar BBC Radio Cymru. 

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811