Mae Grug Muse (1993) yn fardd, golygydd, perfformiwr ac ymchwilydd o Ddyffryn Nantlle. Astudiodd wleidyddiaeth ym Mhrifysgol Nottingham ac yn y Weriniaeth Tsiec, cyn cwblhau doethuriaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'n un o olygyddion a sylfaenwyr Cyhoeddiadau'r Stamp. Mae wedi cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth, ac enillodd merch y llyn (Cyhoeddiadau’r Stamp 2021) gategori barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022. Bydd cyfieithiad o'r gyfrol yn cael ei gyhoeddi yn 2027 gyda Broken Sleep Books. Yn 2025 cyhoeddodd Croesi - Cyfandir ar ddwy olwyn (Y Lolfa), cyfrol yn sôn am ei thaith ar draws gogledd America ar feic yn 2016. Perfformiwyd ei drama fel 'Annwfn' gan Theatr Cymru yn Eisteddfod y Garreg Las, 2026.