Tŷ Newydd is a magical place of words and friendships, the sound of the sea and the sight of blooming flowers. You can look down the garden, through the hole in the hedge and see the billowing sea, or else the next line of a poem, hanging there, waiting to be picked.
Encil Di-diwtor yr Hydref
Ydych chi’n chwilio am ddihangfa rhag prysurdeb bywyd bob dydd; yn chwilio am loches greadigol mewn lleoliad heddychlon lle gallwch chi orffen eich gwaith ysgrifennu neu gymryd amser i ddarllen a myfyrio? Mae encilion Tŷ Newydd, yn ardal odidog Llanystumdwy rhwng môr a mynydd, yn cynnig y ddihangfa greadigol berffaith.
Bydd cyfle i grwydro llonyddwch y coed sydd o’n cwmpas neu i alw yn nhafarn y pentref am wydraid o gwrw lleol. Gallwch adael i’r golygfeydd syfrdanol dros Fae Ceredigion eich ysbrydoli, rhannu syniadau dros swper, neu swatio ac ymlacio yn llyfrgell glyd Tŷ Newydd. Bydd gan bawb ystafell eu hunain, a bydd prydau cartref, wedi’u gwneud gyda chynhwysion lleol gan ein cogydd preswyl profiadol, yn cael eu paratoi ar eich cyfer.
Mae’r encil yma’n rhan o’n cyfres o encilion tymhorol di-diwtor a gynhelir yng ngwanwyn, haf a hydref 2027.
Bydd awduron sy’n archebu lle ar un encil di-diwtor yn derbyn gostyngiad 20% dros ebost i’w ddefnyddio tuag at encil ddi-diwtor arall o fewn yr un flwyddyn.