Cwrs Undydd: Ysgrifennu gyda Hiwmor

Sad 23 Hydref 2027
Tiwtor / Mel Owen
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / aml-genre
Iaith / Cymraeg

Sut mae dod â mwy o hiwmor i dy waith heb golli golwg ar y stori, y neges na’r cymeriadau?

Yn y cwrs undydd hwn, dan arweiniad Mel Owen, byddwch yn edrych ar wahanol ffyrdd o greu hiwmor drwy iaith, sefyllfa a llais. Byddwch yn archwilio beth yn union sy’n gwneud rhywbeth yn ddoniol, sut mae amseru a rhythm yn gallu cryfhau jôc, a sut i ddefnyddio elfennau annisgwyl, gwrthgyferbyniad a’r manylion lleiaf i greu effaith gomig.

Drwy gyfuniad o drafod, darllen, ymarferion ysgrifennu ac arbrofi gyda syniadau newydd, bydd cyfle i roi cynnig ar dechnegau newydd mewn awyrgylch hamddenol a chefnogol. Nid cwrs am ysgrifennu jôcs yn unig mo hwn, yn hytrach byddwch yn dod o hyd i’r hiwmor sydd eisoes yn cuddio yn eich syniadau, cymeriadau neu eich profiadau personol.

P’un a ydych yn ysgrifennu nofel, sgript, barddoniaeth, straeon byrion neu unrhyw fath arall o waith creadigol, bydd y diwrnod hwn yn eich annog i chwarae gyda’ch gwaith a rhoi hwb i’ch hyder a’ch helpu i ddatblygu elfen o hiwmor yn eich gwaith.

Bydd te, coffi a byrbrydau ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.

Gyda diolch i Gronfa Cefnogi Celfyddydau Gwynedd 2027-28 am gefnogi’r cyrsiau hyn yn Nhŷ Newydd.

Tiwtor

Mel Owen

Mae Mel Owen, a ddisgrifir fel “unapologetically cheeky” (The Live Review), “obviously multi talented” (Ed Fringe Review) ac “one to watch” (The Scotsman), yn gomedïwr arobryn gyda rhediad llwyddiannus yn Ffrinj Caeredin o dan ei gwregys. Mae hi wedi perfformio yng ngŵyl Netflix Is A Joke (Los Angeles), gyda beirniaid yn ei disgrifio fel “perfformiwr tanbaid a bythgofiadwy”. Mae Mel wedi cefnogi eiconau comedi ar eu teithiau fel Kiri Pritchard-McLean, Elis James, Emmanuel Sonubi a Daliso Chaponda. Mae gan Mel gredydau ysgrifennu sgriptiau ar gyfer Netflix, BBC Radio 4, BBC One a Channel 4. Cafodd Oedolyn (ish!), ei chyfrol hunangofiannol, ei gosod ar restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2025. Mae Mel yn cyflwyno un o bodlediadau mwyaf poblogaidd Cymru, For Wales See Wales, ac yn llais newydd ar BBC Radio Cymru 2 gyda’i Sioe Frecwast bob bore Sadwrn. 

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811