Cwrs Undydd: Perfformio Barddoniaeth

Sad 6 Tachwedd 2027
Tiwtor / Megan Lloyd
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Perfformio Barddoniaeth
Iaith / Cymraeg

Ymunwch â’r bardd gair llafar Megan Lloyd ar gyfer y gweithdy undydd chwareus a chefnogol hwn, lle byddwch yn archwilio barddoniaeth llafar fel ffurf o fynegiant a chysylltiad. Byddwch yn chwarae gyda geiriau, synau a phatrymau, yn ogystal â rythm, sain a’r berthynas rhwng y bardd a’u cynulleidfa.

Drwy gyfuniad o ymarferion ysgrifennu creadigol, gemau llais, cyngor ar berfformio, gweithgareddau gwrando a chyfleoedd anffurfiol i rannu, byddwch yn symud rhwng ysgrifennu ar gyfer y dudalen tuag at ysgrifennu ar gyfer y glust. Bydd cyfle i ddatblygu gwaith newydd, gweithio ar gerddi sy’n bodoli’n barod, ac arbrofi gyda gwahanol ffyrdd o gyflwyno eich geiriau.

Byddwch hefyd yn arbrofi gyda iaith, wrth archwilio’r ffyrdd gall ieithoedd gwahanol siapio’r modd rydym yn mynegi ein hunain. Bydd y diwrnod yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, ond bydd croeso cynnes i chi greu gwaith ym mha bynnag iaith/ieithoedd yr hoffech.

Bydd y gweithdy yn addas ar gyfer gwahanol lefelau o brofiad hefyd. O bobl sy’n newydd i farddoniaeth llafar i feirdd sydd eisoes yn perfformio. Does dim angen unrhyw brofiad perfformio arnoch, a does dim disgwyliad i fod yn ‘hyderus’ ar y llwyfan, dim ond parodrwydd i chwarae ac arbrofi.

Bydd te, coffi a byrbrydau ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.

Gyda diolch i Gronfa Cefnogi Celfyddydau Gwynedd 2027-28 am gefnogi’r cyrsiau hyn yn Nhŷ Newydd.

Tiwtor

Megan Lloyd

Mae Megan Lloyd (hi/ei) yn awdur, hwylusydd ac artist perfformio o Eryri. Mae hi’n gweithio’n llawrydd ar nifer o brosiectau amlgyfrwng, gan gynnwys hwyluso gweithdai, perfformio barddoniaeth lafar, yn ogystal ag ysgrifennu a pherfformio ar gyfer y sioe theatr ddawns LGBTQ+, Q-fforia. Mae hi’n rhan o garfan Cynrychioli Cymru 2026/2027 gyda Llenyddiaeth Cymru. Mae ei gwaith i’w weld mewn nifer o flodeugerddi, a bydd yn cyhoeddi ei chasgliad cyntaf o gerddi yn 2027 gyda Cyhoeddiadau'r Stamp. Enillodd y gystadleuaeth barddoniaeth lafar yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 2025. Mae hi’n rhannu ei gwaith ar Instagram o dan yr enw @gwaithpapur. 

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811