Taith gerdded lenyddol y Lôn Goed gyda’r Prifardd Siôn Aled
Mer 27 Ebrill 2016 / / Ysgrifennwyd gan Leusa

Taith gerdded lenyddol y Lôn Goed
gyda’r Prifardd Siôn Aled

Dydd Sadwrn 21 Mai, 11.00 am – 2.00 pm
Cwrdd ar gychwyn y Lôn Goed, Afon Wen, Chwilog
Tocynnau: £3
Dewch a phicnic, a bydd paned i ddilyn yn Nhŷ Newydd.

Dewch am dro yng nghwmni’r Prifardd Siôn Aled ar hyd Y Lôn Goed yn Eifionydd. Cawn glywed ambell gerdd sy’n ymwuneud â byd natur, a mwynhau ei ‘llonydd gorffenedig’ (’Eifionydd’, R. Williams Parry). Taith yn arbennig i rai dros 50, ond croeso cynnes i bawb.

Trefnir y digwyddiad hwn gan Llenyddiaeth Cymru fel rhan o Ŵyl Gwanwyn, a gynhelir ledled Cymru ym mis Mai bob blwyddyn i ddathlu creadigrwydd ymhlith pobl hŷn.

Am ragor o wybodaeth ac i archebu tocynnau, cysylltwch â Thŷ Newydd.