ABC: AHNE, Bws a Crôl
Mer 18 Ionawr 2017 / , / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Mae Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd wedi derbyn arian gan Gronfa AHNE Llŷn i gynnal gweithdai a digwyddiadau o fewn ardal y warchodfa.

Yn 1956, dynodwyd rhan helaeth o Benrhyn Llŷn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Prif bwrpas dynodi ardal fel AHNE yw gwarchod, cynnal a chadw harddwch naturiol yn yr ardal. Mae hyn yn cynnwys amddiffyn bywyd gwyllt a phlanhigion, yn ogystal â nodweddion daearegol a thirlun yr ardal. Ers blynyddoedd, mae uned yr AHNE wedi bod yn gweithio ar brosiectau er mwyn helpu i gynnal hunaniaeth unigryw Llŷn, o adfywio cerrig milltir ac arwyddion yr ardal i gynnal gwaith cynnal a chadw ar ffynhonnau’r ardal.

Gyda chymorth nawdd AHNE llwyddwyd i drefnu pum digwyddiad: tair taith yng nghwmni beirdd a llenorion a dau weithdy mewn ysgolion lleol.

Ysgolion

Cynhelir gweithdai mewn dwy ysgol ar ddydd Mercher 8 Chwefror 2017 yng nghwmni’r cyfarwydd Mair Tomos Ifans a’r artist Luned Rhys Parri. Bydd Mair yn adrodd rhai o chwedlau’r ardal ac yna bydd Luned yn cynorthwyo’r disgyblion i ymateb i’r chwedlau mewn ffordd greadigol. Nod y gweithdai fydd cynhyrchu gwaith celf o ddeunyddiau wedi ei ailgylchu er mwyn portreadu cymeriad neu olygfa o rai o chwedlau Llŷn.

Bardd Mewn Bws

Bydd dwy daith Bardd Mewn Bws yn cael eu cynnal gyda’r daith gyntaf Chwedl a Chainc, yn cychwyn o bentref Aberdesach gan ymlwybro ar hyd yr arfordir ac ymweld â rhai o lefydd ar fewndir Llŷn. Bydd Mair Tomos Ifans a Bethan Wyn Jones yn eich tywys ar hyd y daith gan adrodd hanesion rai o chwedlau hynaf ein hiaith sydd â’u gwreiddiau yn nwfn yn yr ardal. Bydd yr ail daith, Y Môr a’i Donnau, yng nghwmni Myrddin ap Dafydd a Twm Elias, yn mynd o amgylch ardal arfordirol Nefyn a’r cyffiniau. Cewch gyfle i ddysgu am chwedlau a llenyddiaeth yr ardal yn ogystal â hanes y tirwedd a bydd cyfle am baned a ffilm fer yn Amgueddfa Forwrol Llŷn ar ddiwedd y daith.

Cynhelir taith Bardd Mewn Bws: Chwedl a Chainc ar brynhawn Sadwrn 4 Chwefror 2017. Bydd y daith yn cychwyn o Amgueddfa Forwrol Llŷn, LL52 6LB am 1.30 pm. Pris tocyn: £6.50

Cynhelir taith Bardd Mewn Bws: Y Môr a’i Donnau ar brynhawn Sul 12 Chwefror 2017. Bydd y daith yn cychwyn o faes parcio Aberdesach am 1.30 pm. Pris tocyn: £6.50

Taith Dafarndai

Os am rywbeth ychydig yn wahanol i’r arfer, ymunwch â Gwyneth Glyn a Twm Morys ar daith lenyddol o amgylch tafarndai Pwllheli ar nos Iau 23 Chwefror 2017. Cewch ddysgu mwy am hanes rai o dai potas hynaf y dref trwy gerdd a chân a llond gwlad o chwerthin yng nghwmni’r ddau. Bydd y daith yn cychwyn o dafarn Y Whitehall am 7.00 pm. Pris tocyn: £5

Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael ar gyfer y ddwy daith fws, felly gofynnwn yn garedig i chi archebu eich lle o flaen llaw trwy gysylltu â Thŷ Newydd: 01766 811 522 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org

Dymunwn ddiolch i AHNE am eu nawdd ac i O Ddrws i Ddrws am ddarparu’r ddau fws mini.