Anrhydeddu Gareth F. Williams: Tlws Mary Vaughan Jones 2018
Llu 17 Medi 2018 / , / Ysgrifennwyd gan Cyngor Llyfrau Cymru

Y diweddar Gareth F. Williams, un o brif awduron llyfrau plant a phobl ifanc yr hanner canrif diwethaf yn y Gymraeg, yw enillydd Tlws Mary Vaughan Jones eleni.

Cyflwynir y tlws bob tair blynedd gan Gyngor Llyfrau Cymru er cof am Mary Vaughan Jones, a fu farw ym 1983, i rywun a wnaeth gyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant yng Nghymru.

Cafodd Gareth ei fagu a’i addysgu ym Mhorthmadog. Bu’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, cyn cymhwyso fel athro yng Ngholeg Cartrefle, Wrecsam, gan weithio wedyn fel athro Cymraeg yn Ysgol Rhiwabon. Ond roedd â’i fryd ar fod yn awdur, a rhoddodd y gorau i’w swydd fel athro er mwyn ysgrifennu’n broffesiynol ym 1985. Treuliodd gyfnod yn byw yn Beddau ger Pontypridd, cyn ymgartrefu yn Silstwn, Bro Morgannwg, yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bu farw yn 2016 yn 61 oed.

Roedd yn ysgrifennu ar gyfer y llwyfan a’r sgrin, ac yn adnabyddus am gyd-greu cyfresi poblogaidd ar S4C, fel Pengelli a Rownd a Rownd.

Ond fel awdur a enillai ei fara menyn wrth ysgrifennu y daeth Gareth F. yn enw dnabyddus, a thros y chwarter canrif diwethaf bu’n gyfrifol am ysgrifennu dros 20 o gyfrolau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion. O Ddawns i Ddawns (1990) oedd ei lyfr cyntaf. Enillodd Wobr Tir na n-Og chwe gwaith, gan gynnwys yn 2015, pan lwyddodd i gipio gwobr Llyfr y Flwyddyn hefyd am ei nofel Awst yn Anogia.

“Mae cyfraniad Gareth F. Williams wedi bod yn allweddol i ddatblygiad llyfrau plant a phobl ifanc yng Nghymru,” meddai Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau. “Mae’n anodd mesur maint ei ddylanwad dros y blynyddoedd. Wrth ei anrhydeddu a’r tlws hwn – yr anrhydedd uchaf ym maes llyfrau plant yng Nghymru – rydym yn cydnabod ei gyfraniad amhrisiadwy ac yn diolch am ei waith dros nifer o flynyddoedd.”

“Byddai Gareth mor falch o dderbyn y wobr hon,” meddai’r awdures Bethan Gwanas. “Roedd wrth ei fodd yn ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc, a llwyddodd i swyno, dychryn ac ysbrydoli cenedlaethau o ddarllenwyr yn ystod ei yrfa.”

Cyflwynir Tlws Mary Vaughan Jones 2018 i deulu Gareth F. Williams mewn seremoni arbennig a gynhelir ym Mhortmeirion, nos Iau, 18 Hydref 2018.

Ers ei gyflwyno am y tro cyntaf ym 1985, enillwyd y tlws gan Ifor Owen, Emily Huws, T. Llew Jones, W. J. Jones, Roger Boore, J. Selwyn Lloyd, Elfyn Pritchard, Mair Wynn Hughes, Angharad Tomos, Jac Jones a Siân Lewis.