Awdur o Gwrs Tŷ Newydd yn Cyhoeddi Llyfr
Iau 18 Chwefror 2021 / , , / Ysgrifennwyd gan Janet Brown

Ym mis Hydref 2018, fe fûm ar gwrs yn Nhŷ Newydd oedd yn edrych ar sut i ysgrifennu ffuglen wedi ei seilio ar ddigwyddiadau hanesyddol. Y tiwtoriaid oedd Phil Carradice a Louise Walsh. Roedd yn benwythnos bendigedig, ac fe ddysgais i gymaint. Ond yn bwysicach fyth, bu’r adborth adeiladol a’r cyngor gan y ddau diwtor yn hwb enfawr i’m hyder, ac fe roddodd hynny yr ysgogiad i mi i barhau ac i gysylltu â chyhoeddwyr.

Mae hi wedi bod yn daith hir ac yn un gymysg o ran y da a’r drwg fel a ddisgwylir, ond bu Louise yn gymorth drwy fod yn gyswllt cyson a drwy gynnig sylwadau defnyddiol. Yr wythnos ddiwethaf, fe dderbyniais gynnig ffurfiol gan wasg Y Lolfa i gyhoeddi’r llyfr yn 2022. Yn amlwg rwyf wedi gwirioni, ac roeddwn yn awyddus i rannu’r stori hon i annog awduron eraill ac i gael cyhoeddi – mae’n bosib! Ac rwyf i yn fy chwe-degau, felly dydi hi fyth yn rhy hwyr!

Mae’r llyfr wedi ei ysgrifennu fel nofel, ond mae wedi ei seilio yn driw ar fywyd fy hen fam-gu, Margaret Davies, a gafodd ei dwyn i fyny ar dyddyn bychan tu allan i Lanidloes. Ar ôl profi gwaith caled a thrychineb bersonol, aeth yn ei blaen i fod yn gogydd yn Neuadd Gregynog yn Sir Drefaldwyn. Wedi mwynhau llwyddiant a pheth statws yma yn Gregynog, aeth pethau i gyfeiriad llwm ar ôl priodi ac yna canfod ei hun yn weddw. Fel nifer o fenywod ei hoes yn gynnar yn yr 20fed ganrif, doedd ganddi ddim llawer o reolaeth dros ei thynged ei hun, ac roedd bywyd yn heriol, a goroesi yn straen. Rwyf yn gobeithio, pe bydd popeth yn ôl fel ag y dylai fod y flwyddyn nesaf, y gallwn lansio’r llyfr yn Gregynog ei hun a fyddai’n briodol iawn.

Diolch o galon i Dŷ Newydd a Llenyddiaeth Cymru am ddarparu’r profiadau dysgu yma, ac am yr anogaeth y maent yn ei ddarparu i’r rheiny ohonom sy’n teipio ffwl spîd yn ein cartrefi. Dyma’r peth gorau wnes i erioed. Pan fyddwch yn cychwyn ysgrifennu, rydych yn gwybod cyn lleied am y diwydiant fe all hynny eich dal yn ôl. Felly mae cwrdd ag awduron, golygyddion a chyhoeddwyr yn brofiad hynod werthfawr, ac rwy’n gobeithio y gallwch barhau i gynnig cyrsiau tebyg eto yn y cnawd pan fyddwn yn dod allan o’r pandemig.