• Llun:  Cwrs yr Urdd 2015
Awduron Ifainc Mwyaf Dawnus Cymru’n dod i Dŷ Newydd
Maw 29 Tachwedd 2016 / / Ysgrifennwyd gan Leusa

Mae un o’n hoff benwythnosau ni wedi cyrraedd eto eleni. Bob blwyddyn, rydym yn gwahodd enillwyr prif gystadlaethau llenyddol Eisteddfod yr Urdd yma i dreulio amser gyda’i gilydd, i ysgrifennu, i gymdeithasu ac i fwynhau ysgrifennu’n greadigol. Eleni, eu mentor fydd neb llai na Bardd Cenedlaethol Cymru –  Ifor ap Glyn, a byddwn hefyd yn cael cwmni’r dramodydd a’r cynhyrchydd Ian Rowlands i gynnal gweithdy am fyd y ddrama.

Mae’r cwrs yn cael ei gynnal ers dros bymtheg mlynedd, ac wedi chwarae rhan flaenllaw yn dod a chenedlaethau o awduron ifanc at ei gilydd. Eleni, ail lansiwyd Cwrs yr Urdd fel Cwrs Olwen, er cof am Olwen Dafydd, aelod o staff Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd fu farw yng ngaeaf 2014. Bu Olwen yn gweithio yn Nhŷ Newydd am 11 o flynyddoedd yn trefnu cyrsiau a digwyddiadau.

Meddai Aneirin Karadog fu ar Gwrs yr Urdd dair gwaith yn y 2000au cynnar: “Roedd cael mynd ar gyrsiau ysgrifennu i Dŷ Newydd fel rhan o’r wobr am lwyddo yng nghystadlaethau’r Urdd yn amhrisiadwy am sawl rheswm. Bu’n gymorth mawr wrth i mi ddysgu a mireinio fy nghrefft fel bardd, yn gyfle gwych i dreulio amser gyda’r mawrion llenyddol oedd yn rhannu eu hamser a’u perlau o wybodaeth ar y cyrsiau, ac roedd hefyd yn arbennig cael dod i nabod cymuned o awduron ifanc – rhai ohonyn nhw yn ffrindiau agos i mi hyd heddiw. Roedd cael gwneud hyn oll yn lleoliad hudolus Tŷ Newydd yn goron ar y cyfan.”

Meddai Eurig Salisbury, a fu yntau ar sawl Cwrs yr Urdd ar gychwyn ei yrfa fel bardd: “Mi o’n i wrth fy modd yn mynd ar Gwrs yr Urdd yn Nhŷ Newydd. Yn ogystal â chael cyfle i ysgrifennu ac i holi awduron profiadol, sylweddoles i hefyd fod ‘na bobl ifanc eraill o bob cwr o Gymru a oedd yr un mor nyts â fi am lenyddiaeth!”

 

Cynhelir y cwrs mewn partneriaeth â’r Urdd, a gyda chyfraniad ariannol hael gan deulu’r diweddar Olwen Dafydd.