• Llun:  Cwrs Olwen 2016
“Dw i ‘di llosgi’r bara garlleg…!”
Mer 7 Rhagfyr 2016 / Ysgrifennwyd gan Miriam Williams

Roedd penwythnos 2 – 4 o Ragfyr wedi cael ei nodi yn fy nyddiadur fyth ers i mi gychwyn yn fy swydd nol ym mis Mehefin. Dyma’r penwythnos oedd wedi cael ei ganmol sawl gwaith gan nifer o aelodau o staff, ac un o’n i wedi gweld sawl llun a broliant iddo ar y cyfryngau cymdeithasol am nifer o flynyddoedd. Mewn dim o beth, mae hi’n fis Rhagfyr a dyma fi rŵan yn ysgrifennu am y cwrs oedd yn teimlo mor bell i ffwrdd. Mae hyn hefyd yn golygu mod i’n gweithio yn Nhŷ Newydd ers chwe mis – anhygols, ai? Chwedl George Huws.

Eleni, fi oedd yn cael y pleser o groesawu a gwesteio naw o enillwyr prif wobrau Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir y Fflint 2016 yn Nhŷ Newydd ar gyfer y cwrs blynyddol. Ail enwyd y cwrs eleni er cof am y diweddar Olwen Dafydd, aelod annwyl o staff Tŷ Newydd a fu mor hoff o’r cwrs arbennig hwn. Ar ôl treulio penwythnos yng nghwmni’r criw o awduron ifanc, dwi’n gallu deall hynny’n iawn.

Brynhawn Gwener daeth Tony druan mewn i’r swyddfa yn swp sâl gydag annwyd, felly fe gefais i’r dasg o gadw llygaid ar y grochan fawr o chili cig eidion, coginio’r bara garlleg a’r pwdin, a gweini popeth heb achosi gwenwyn bwyd i neb. Trwy lwc, roedd y bwyd yn flasus dros ben, er i mi losgi’r bara garlleg. Chwarae teg i bawb a’i fwytodd, rydych chi’n rhy glên o lawer. Ar ôl swper, aeth pawb fyny i’r llyfrgell i gael cyflwyniad byr gan weddill y grŵp am eu diddordebau gwahanol, boed yn sgriptio, yn farddoni neu’n ysgrifennu llên micro, a chyflwyniad am y cwrs. Wedi trafodaeth ddifyr tu hwnt, roedd pawb yn barod am ymweliad â’r Plu. Dros beint o gwrw Wrecsam a gwres y tân yn y grât, cafwyd noson wrth ein boddau yn trin a thrafod llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a cherddoriaeth gan chwerthin llond ein boliau.

Bore Sadwrn, cafwyd gweithdy am fyd y ddrama dan ofal y cyfarwyddwr a’r dramodydd Ian Rowlands. Rhoddwyd y dasg o lunio monolog i’r grŵp a bu pawb fwynhau yn fawr. Barddoniaeth oedd tasg y prynhawn gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, a chafwyd tro ar ysgrifennu rhyddiaith fore Sul cyn i bawb ddychwelyd am adre.

O ystyried mai dim ond amser byr iawn oedd y criw yma, dw i’n siwr eu bod wedi gadael gyda llond trol o syniadau newydd ac wedi cael cyfle i gael adborth a chyngor gan y ddau fentor. Ar ben hynny, dw i’n sicr fod pawb wedi cael amser wrth eu boddau yn cymdeithasu gyda’u cyfoedion ac yn rhannu sgyrsiau lu am eu diddordebau yn y llyfrgell neu yn y Plu.

Uchafbwynt y penwythnos i mi oedd y nos Sadwrn yn y Plu i gyfeiliant ffidil Iestyn Tyne a’i gyfaill Wil ar y gitâr. Roedd y ddau wedi bod yn chwarae mewn parti priodas lawr y ffordd, felly pa ffordd well i’w dadflino ‘na gofyn iddyn nhw’n diddanu ninnau hefyd? Heb anghofio darlleniad go arbennig yn y llyfrgell fydd yn sicr o aros yn y cof.

Dw i’n mawr obeithio y bydd y criw ifanc yn parhau i ysgrifennu a datblygu fel awduron, gan obeithio y gallwn ninnau yn Nhŷ Newydd fod o gymorth iddynt ar hyd eu taith. Dw i hefyd yn ymddiheuro am losgi’r bara garlleg nos Wener…

Tan y tro nesaf…!