Brynhawn Sadwrn 4 Chwefror, rhwng tonnau gwyllt traeth Aberdesach a chap du Maen Dylan prin yn y golwg uwchben y dŵr, roedd taith Bardd Mewn Bws: Chwedl a Chainc ar gychwyn. Yn disgwyl amdanom yn y maes parcio yr oedd bws mini O Ddrws i Ddrws, yr awdur a’r cerddor Mair Tomos Ifans a’r naturiaethwr Bethan Wyn Jones. Wedi i weddill y teithwyr gyrraedd, i ffwrdd â ni, gyda phawb yn edrych ymlaen yn arw at y daith ar hyd arfordir Pen Llŷn. Cafwyd straeon am y môr, y tylwyth teg, môr forwynion a dysgu mwy am blanhigion arfordirol. Wyddoch chi fod Gwymon Codog Mân yn dda at draed poenus, a sudd Y Ddeilen Gron yn dda at losg ac yn flasus mewn salad?
Ymlaen â ni at Lyn Glasfryn, Pencaenewydd, a chael hanes y ferch oedd yn gofalu am Ffynnon Grasi. Yn ôl yr hanes, un prynhawn braf fe gafodd ei hudo gan un o’r tylwyth teg gan achosi iddi anghofio roi’r caead yn ôl ar y ffynnon. Fe orlifodd y ffynnon a chreu Llyn Glasfryn. Wel, dyna’r sôn.
Wrth fynd ymlaen at Borthdinllaen yn y glaw, cawsom stori arall am y tylwyth teg drwg oedd yn byw o dan y môr. Ymlaen â ni am Nefyn, Llithfaen a Chlynnog Fawr, lle cawsom hanes Beuno Sant yn cerdded yr holl ffordd tuag at dwyni Niwbwrch ar Ynys Môn – er, mwy na thebyg doedd y môr ddim yno bryd hynny.
Erbyn cyrraedd yn nôl i Aberdesach roedd pawb wedi digoni, wedi blino ac yn barod am baned arall.
Dymunwn ddiolch i AHNE Llŷn am eu nawdd i gynnal y daith hon, ac i fws mini O Ddrws i Ddrws am ein cludo.