Beth yw’r gorau o’r goreuon?
Iau 17 Mai 2018 / / Ysgrifennwyd gan Cyngor Llyfrau Cymru

Beth yw’r Gorau o’r Goreuon?

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn chwilio am hynny’n union. Am y llyfrau gorau o’r goreuon dros y blynyddoedd y byddai plant a phobl ifainc heddiw yn eu mwynhau a’u gwerthfawrogi. Ydyn nhw yn gyfrolau sydd wedi ennill Gwobr Tir na n-Og dros y blynyddoedd, neu’n rhywbeth hollol wahanol? Ydyn nhw’n storïau oesol neu’n stori sy’n cyfleu cyfnod yn arbennig o dda? Beth am ymuno yn yr hwyl, dewiswch eich hoff lyfrau i’w cyflwyno i blant a phobl ifanc heddiw?

Rhannwch nhw a dechreuwch drafodaeth.

#gorauorgoreuon

Mewn ymateb i rai o argymhellion yr Adolygiad o Lyfrau Cymraeg ar gyfer Plant ac Oedolion Ifanc gan Dr Siwan Rosser (Prifysgol Caerdydd), a gyhoeddwyd yn hydref y llynedd, mae’r Cyngor Llyfrau Cymru yn parhau gyda’r ymgyrch #gorauorgoreuon yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd eleni lle bydd cyfle i bawb gyfrannu at yr ymgyrch drwy bostio eu hawgrymiadau i focs arbennig ar stondin Siop Inc. Bydd un cyfrannwr lwcus yn ennill tocyn llyfr gwerth £50.

Fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr eleni mae’r Cyngor Llyfrau eisoes wedi trefnu noson ddifyr yng nghwmni Dr Siwan Rosser o Brifysgol Caerdydd, y Prifardd Mererid Hopwood, y gwyddonydd a’r Athro Emeritws Deri Tomos, a’r awdur, y cartwnydd a’r cyflwynydd Siôn Tomos Owen, lle buon nhw’n trafod darllen er pleser yng nghyd-destun llenyddiaeth plant a phobl ifanc. Wrth lansio ymgyrch Y Gorau o’r Goreuon, roedd y panel yn trafod eu hoff lyfrau i blant a phobl ifanc, a gofyn beth sydd yn gwneud llyfr yn un apelgar, a sut mae dewis pa lyfrau i’w hystyried ymhlith y Gorau o’r Goreuon.

Y bwriad yw parhau gyda’r ymgynghoriad anffurfiol yma ar stondin y Cyngor Llyfrau yn ystod y Sioe Fawr yn Llanelwedd a hefyd yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngaerdydd.

Hefyd mae modd cynnig teitlau i’w cynnwys wrth tagio #gorauorgoreuon ar Trydar.