Cystadleuaeth Farddoniaeth Celfyddydau Anabledd Cymru
Iau 16 Chwefror 2017 / / Ysgrifennwyd gan Miriam

Cystadleuaeth Farddoniaeth 2017 Celfyddydau Anabledd Cymru a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd

Beirniad: Sian Northey
Pris ymgeisio:
rhad ac am ddim

Gwobr: cwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn ystod 2017*
Dyddiad cau: 30 Ebrill 2017

Noddir y gystadleuaeth gan Gwanwyn, yr ŵyl genedlaethol a gynhelir ledled Cymru bob blwyddyn i ddathlu creadigrwydd ymhlith pobl hŷn. Dechreuodd yr ŵyl yn 2007 a chaiff ei chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.

* caiff enillydd y gystadleuaeth ddewis unrhyw gwrs o raglen 2017, heblaw Dosbarthiadau Meistr ac Encilion, cyn belled ac y bo lle ar y cwrs.

 

Rheolau a gwybodaeth hanfodol

Mae’n rhaid i chi:

  • gyfyngu eich hymgais i un gerdd yn unig
  • fyw yng Nghymru
  • fod yn 50 oed neu’n hŷn ar 30/04/17
  • fod yn berson anabl neu sydd â chyflwr/cyflyrau corfforol neu/a meddyliol hirdymor
  • fod heb gyhoeddi unrhyw waith ysgrifennu o’r blaen – yn farddoniaeth neu yn ryddiaith – mewn cylchgronau llenyddol, blodeugerddi, pamffledi neu lyfrau
  • fod heb gymryd rhan mewn cwrs preswyl yn Nhŷ Newydd o’r blaen

Mae’n rhaid i’r gerdd:

  • beidio a bod dros 40 llinell
  • fod yn y Gymraeg neu’r Saesneg, neu’n gerdd ddwyieithog
  • gael ei gyrru atom gyda ffurflen gais wedi ei llenwi
  • fod yn gerdd wreiddiol gennych chi, sydd heb ei chyhoeddi eisoes
  • fod yn ddienw, ac heb unrhyw farc all ddatgelu pwy ydych chi i’r beirniad

Noder:

  • Dim ond un enillydd fydd. Bydd penderfyniad y beirniad yn derfynol
  • Dewisir detholiad o gerddi i fod yn rhan o e-gyhoeddiad. Bydd hawlfraint yr holl gerddi’n parhau’n eiddo i’r awduron, ond drwy gyflwyno’r gwaith yn y gystadleuaeth, rydych yn rhoi caniatâd i Gelfyddydau Anabledd Cymru gyhoeddi eich cerdd
  • Ni all staff nag ymddiriodolwyr Celfyddydau Anabledd Cymru na Llenyddiaeth Cymru ymgeisio
  • Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi cyn 31 Mai 2017
  • Nid yw’r wobr yn cynnwys costau teithio i, ac o Dŷ Newydd
  • Nid oes angen bod yn aelod o Celfyddydau Anabledd Cymru er mwyn ymgeisio, ond mae’n rhad ac am ddim i ymaelodi i bobl yng Nghymru sy’n anabl neu sydd â chyflwr/cyflyrau corfforol neu feddyliol hirdymor. Ewch i’r wefan (dacymru.com) neu cysylltwch am fwy o fanylion.

Sut i ymgeisio?

  • Drwy’r post: rhaid i’r gerdd fod wedi ei hargraffu neu ysgrifennu yn glir ar ddarn o bapur A4. Caiff pob cerdd ei beirniadu’n ddienw; felly ni ddylai’r gerdd arddangos eich enw nac unrhyw fanylion adnabod eraill. Cwblhewch y ffurflen gais, a’i chynnwys yn yr amlen. Os hoffech dderbynneb i gadarnhau fod eich cerdd wedi ein cyrraedd, amgaewch amlen â stamp ac arni eich cyfeiriad. Yn anffodus, ni allwn ddychwelyd eich gwaith, felly cadwch gopi.
  • Dros e-bost: anfonwch eich cerdd atom mewn dogfen Word fel atodiad i post@dacymru.com gyda’r llinell pwnc ‘Cystadleuaeth Farddoniaeth’. Caiff pob cerdd ei beirniadu’n ddienw; felly ni ddylai’r gerdd arddangos eich enw nac unrhyw fanylion adnabod eraill. Cwblhewch y ffurflen gais, a’i chynnwys fel atodiad hefyd.

Am fwy o wybodaeth am y gystadleuaeth, cysylltwch â Celfyddydau Anabledd Cymru:  denni@dacymru.com / post@dacymru.com / 029 2055 1040

 

Mewn bodolaeth ers 1982, mae Celfyddydau Anabledd Cymru’n gweithio dros pob fath o gelfyddydau ac yn ariennir gan Cyngor Celfyddydau Cymru fel y prif mudiad ar gyfer anabledd a chelfyddydau yng Nghymru.

Gweledigaeth: Ein gweledigaeth yw creu Cymru gyfartal a chreadigol lle bo pobl anabl a byddar yn ganolog i gelfyddydau ein cenedl.

Datganiad Cenhadaeth: Rydym yn credo mewn . . . agor mynediad a chyfleoedd, dathlu amrwyiaeth, meithrin ymarferwyr anabl o safon uchel – rhai sy’n dechrau arni a rhai sydd wedi enill eu plwyf – ac ysbydoli newid ledled Cymru. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.dacymru.com

Tŷ Newydd yw canolfan ysgrifennu genedlaethol Cymru. Mae’r ganolfan yn cynnal rhaglen flynyddol o gyrsiau ysgrifennu creadigol ac encilion i gynulleidfa o bob oed a gallu, yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae Tŷ Newydd, sy’n hen gartref i’r cyn Brif Weinidog David Lloyd George, wedi’i leoli yn Llanystumdwy yng Ngwynedd. Caiff y ganolfan, sydd ar agor ers 1990, ei rhedeg gan Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu llenyddiaeth yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth am Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ac i weld rhaglen o gyrsiau 2017, ewch i www.tynewydd.cymru

Mae Sian Northey yn fardd ac yn awdur llawrydd. Ei chyfrol ddiweddaraf yw’r nofel Rhyd y Gro (Gomer, 2016) ac roedd ei chyfrol gyntaf o gerddi, Trwy Ddyddiau Gwydr (Gwasg Carreg Gwalch, 2013) ar restr fer Llyfr y Flwyddyn. Dewiswyd Rhyd y Gro a’i nofel flaenorol Yn y Tŷ Hwn (Gomer, 2011) ar gyfer Silff Lyfrau’r Gyfnewidfa Lên, a hi oedd cyfieithydd Pigeon (Parthian, 2016), nofel gyntaf Alys Conran, i’r Gymraeg (Pijin, Parthian, 2016). Mae’n cynnal gweithdai i blant ac oedolion gan gynnwys cyfres ar gyfer Celfyddydau Anabledd Cymru yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Roedd yn un o’r awduron a ddewiswyd ar gyfer y cynllun Awduron wrth eu Gwaith yng Ngŵyl y Gelli y llynedd. Enillodd Sian y Gystadleuaeth Farddoniaeth yn Eisteddfod Arfordir y Gorllewin 2015 gyda cherdd Saesneg (https://americymru.net/americymru/blog/4325/west-coast-eisteddfod-poetry-competition-2015-we-have-a-winner).

 

Cliwich yma ar gyfer y Ffurflen Gais