Rhwng pobi bisgedi blasus a pharatoi llond gwlad o fara cartref mae gan Tony, cogydd Tŷ Newydd, storfa anferth o ryseitiau arbennig. Rydym wedi gofyn iddo rannu rhai o’i hoff ryseitiau gyda ni. Bydd rysáit y mis hwn, a holl ryseitiau’r dyfodol, ar gael ar ein blog. Bon appétit!
Brownies Betys Coch
Cynhwysion
500g o fetys amrwd (3 – 4 o fetys canolig eu maint)
100g o fenyn (heb halen), a pheth ar gyfer iro’r tun
200g o siocled 70% cocoa
1 llwy de o rin fanila
250g o siwgwr mân
3 wy
100g o flawd plaen
25g o bowdr cocoa
Dull
Yn gyntaf oll, ewch i nôl par o fenig rwber neu mi welwch eich dwylo’n troi’n borffor. Ewch ati i dorri’r ddau ben a chrafu’r pil i ffwrdd – mae angen tua 400g o fetys amrwd. Torrwch y betys yn fras a’u rhoi mewn powlen fawr. Ychwanegwch ddiferyn o ddŵr, ei orchuddio gyda cling film, yna’i roi yn y microdon ar wres uchel am 12 munud tan mae’r betys yn frau.
Cynheswch y popty i 180C / 160C ffan / nwy 4. Tra bod y betys yn coginio yn y microdon, irwch y tun (20 x 30cm neu dun rhostio bychan). Torrwch y siocled yn ddarnau pytiog a thorrwch y menyn yn giwbiau. Arllwyswch y betys wedi ei goginio drwy ogr i gael gwared ag unrhyw hylif dros ben cyn ei roi mewn prosesydd bwyd neu gymysgydd gyda’r siocled, menyn a’r fanila. Ceisiwch gael y gymysgedd mor llyfn â phosib. Bydd y siocled a’r menyn yn toddi wrth i chi wneud hyn.
Rhowch y siwgr a’r wyau mewn powlen fawr a’u curo gan ddefnyddio chwisg drydanol tan eu bod yn drwchus, yn welw ac yn ewynnog (gwnewch hyn am tua 2 funud). Ychwanegwch y gymysgedd betys mewn i’r bowlen gyda llwy fetel a’i blygu mewn i’r wyau. Ceisiwch gadw cymaint o aer ag yn bosib yn y gymysgedd. Defnyddiwch ogr i ychwanegu’r blawd a’r powdwr cocoa, yna plygwch y cynhwysion at ei gilydd i wneud cytew llyfn.
Arllwyswch y gymysgedd i’r tun a’i bobi am 25 munud tan fod y gymysgedd wedi codi. Gadewch iddo oeri’n llwyr yn y tun cyn eu torri. Mwynhewch!