Cegin Tony: Cacen Lemon
Maw 5 Mehefin 2018 / / Ysgrifennwyd gan Tony

Mae’n bryd rhannu un o ddanteithion melys Cegin Tony y mis hwn, felly dyma un o ffefrynnau’r swyddfa – cacen lemon.

Cynhwysion

8 owns o fenyn / margarin
8 owns o siwgr
4 wy (canolig)
8 owns o flawd codi*
1/2 llwy de o Sicilian Lemon Extract
Pil 2 lemon wedi eu gratio
Sudd 2 lemon
Siwgr eisin

*Os oes angen cacen di-glwten, defnyddiwch flawd di-glwten ac yna ffeirio 2 owns o’r blawd am 2 owns o almon mân.

Dull

Curwch y menyn a’r siwgr tan ei fod yn ysgafn. Chwisgwch yr wyau i’r gymysgedd, un ar y tro. Ychwanegwch y blawd a’r pil gyda’r extract, a’i blygu mewn i’r gymysgedd gan bwyll bach. Arllwyswch y gymysgedd mewn i dun (wedi ei iro neu ei orchuddio gyda phapur pobi) o’ch dewis. Bydd Tony yn defnyddio tun brownies gan amlaf, ac yn cael oddeutu 12 tamaid o bob tun.

Pobwch y gacen yn y popty am 30 – 40 munud, ar wres canolog. Gadewch iddo oeri am 5 munud cyn ei dynnu o’r tun. Arllwyswch 3/4 y sudd lemwn dros y gacen (cofiwch roi plât / rhywbeth oddi tano os am arbed llanast llwyr). Pan fo’r gacen wedi oeri’n gyfan gwbl, cymysgwch eisin trwy ychwanegu gweddill y sudd lemwn at y siwgr eisin a’i dywallt ar hyd y gacen fel y dymunwch. Peidiwch â thorri’r gacen tan i’r eisin galedu, fodd bynnag. A dyna ni, barod i’w mwynhau gyda phaned o de a llyfr da.

Pob hwyl ar y pobi! Os fyddwch chi’n mynd ati i goginio unrhyw un o ryseitiau Tony, cofiwch rannu ambell lun gyda ni!