• Llun:  Dafydd Nant
Cegin Tony: Clafoutis Ceirios Duon
Iau 3 Hydref 2019 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Mae Tony wedi rhannu ychydig o’i ryseitiau gyda ni – Mwynhewch y Clafoutis Ceirios Duon cartref yma

Clafoutis Ceirios Duon

Cynhwysion

1 Tun ceirios duon (wedi eu hidlo)

4 Wy

4owns Blawd plaen

8floz Hufen

4owns Siwgr

Dull

Cynheswch y popty i 180C / Nwy 7

Irwch y tin quiche ac ychwanegwch y ceirios

Cymysgwch yr holl gynhwysion i greu cytew

Arllwyswch ar ben y ceirios

Coginiwch yn y popty am 30 munud a’i weini gyda siwgr eisin ar ei ben

Mwynhewch!