• Llun:  Kristina Banholzer
Cegin Tony: Cyri Thai Gwyrdd
Iau 3 Hydref 2019 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Cyri Thai Gwyrdd

Cynhwysion

2 Tatws melys

1 Tun llaeth cnau coco

1 Llwy fawr o bâst cyri gwyrdd Thai

1 Nionyn mawr

Llond llaw o sbigoglys

400g Tun ffa menyn

Dull

Pliciwch y daten a thorri ½ yn fân a ½ yn ddarnau mawrion

Pliciwch a thorri’r nionyn yn ddarnau mawrion

Gosodwch yn y badell gydag ychydig o olew a phâsd cyri

Ffriwch am ychydig funudau cyn ychwanegu’r llaeth cnau coco

Berwch a’i fudferwi gan ei droi’n achlysurol i dorri’r daten yn ddarnau bychain

Ychwanegwch halen a phupur i ychwanegu blas

Ychwanegwch sbigoglys a’r ffa menyn am y pum munud olaf

Mwynhewch!