• Llun:  Cwrs Olwen 2016
Cronfa Gerallt yn noddi bardd ifanc i fynychu Cwrs Cynganeddu Tŷ Newydd
Iau 6 Ebrill 2017 / / Ysgrifennwyd gan Leusa

Mae Barddas wedi cyhoeddi mai Elan Grug Muse yw’r bardd sydd wedi cael ei dewis eleni i dderbyn nawdd o Gronfa Gerallt i fynychu Cwrs Cynganeddu Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ym mis Ebrill.

Mae Llenyddiaeth Cymru eisoes yn gyfarwydd â thalentau Grug fel llenor. Yn ddisgybl ysgol, bu’n aelod selog o Sgwad ‘Sgwennu Gwynedd, ac yna’n ymwelydd â Thŷ Newydd ar Gwrs yr Urdd i fuddugwyr cystadlaethau llenyddol Eisteddfod yr Urdd. Ar un o’r cyrsiau hynny yn llyfrgell enwog Tŷ Newydd y daeth y llenorion sy’n gyfrifol am gylchgrawn llenyddol newydd Y Stamp at ei gilydd i ddechrau trafod syniadau. Roedd Grug hefyd ymysg tîm o bedwar bardd ifanc a gymerodd ran yn Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru yn 2013 i gyfansoddi cant o gerddi mewn 24 awr.

Dyma’r eildro i’r cwrs preswyl ar y gynghanedd gael ei gynnal yn Nhŷ Newydd. Yn y cwrs cyntaf yn 2016, noddwyd tri bardd gan Gronfa Gerallt i dreulio wythnos yng nghwmni’r Prifeirdd Tudur Dylan Jones ac Aneirin Karadog. Yn eu mysg, yr oedd Iestyn Tyne, a ddaeth ar y cwrs fel dechreuwr yng nghrefft y gerdd dafod, ond a aeth ymlaen i ennill Cadair Eisteddfod Ffermwyr Ifainc y gaeaf hwnnw gyda cherdd gaeth.

Meddai Dafydd John Pritchard, Cadeirydd Barddas: “Bydd Elan Grug Muse yn cyhoeddi ei chyfrol gyntaf, Ar Ddisberod, gyda Chyhoeddiadau Barddas eleni, ac mae Barddas yn falch iawn o allu hybu ei gyrfa fel cynganeddwraig drwy sicrhau lle iddi ar y cwrs hwn. Pan sefydlwyd y gronfa, penderfynwyd mai hybu ein talentau ifanc fyddai’r nod – fel y byddai Gerallt ei hun wedi’i ddymuno – ac mae’n dda gallu cydweithio gyda Tŷ Newydd a Llenyddiaeth Cymru, unwaith eto, yn hyn o beth.”

Bydd Grug yn ymuno â hyd at bymtheg cyfranogwr arall sy’n awyddus i gael ymdrochiad yn y gynghanedd yng nghwmni’r tiwtoriaid Twm Morys ac Eurig Salisbury.

Yn ôl Aneirin Karadog, oedd yn diwtor ar Gwrs y Gynghanedd y llynedd, “Hyd y gwn i, ni fu erioed cwrs carlam i ddysgu’r grefft yn unman arall yn y byd ar unrhyw adeg arall mewn hanes, ac ymddengys mai dyma’r ffordd orau i ddysgu. Y brif fantais yw bod y preswylwyr oll wedi cyflawni’r hyn a fyddai wedi cymryd oddeutu dwy flynedd drwy fynychu dosbarthiadau nos, gan fod y tiwtoriaid yno gyda nhw ddydd a nos, a bod yr effaith big brother house cynganeddol yn golygu nad oedd lle i neb ddianc rhag y gynghanedd.”

Cynhelir y Cwrs Cynganeddu yn Nhŷ Newydd o ddydd Llun 10 – dydd Gwener 14 Ebrill. Mae pris y cwrs yn ddibreswyl yn cychwyn o £245, a cwrs â llety o £350. Mae ysgoloriaethau ar gael i drigolion Gwynedd.

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru lle ar y cwrs, ewch i tynewydd.cymru neu cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru:
tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522811