• Llun:  Richard Outram
Cyfle i ennill lle ar Gwrs Cynganeddu yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
Llu 24 Chwefror 2020 / , / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Hyd y gwn i, ni fu erioed cwrs carlam i ddysgu’r grefft yn unman arall yn y byd ar unrhyw adeg arall mewn hanes, ac ymddengys mai dyma’r ffordd orau i ddysgu. Y brif fantais yw bod y preswylwyr oll wedi cyflawni’r hyn a fyddai wedi cymryd oddeutu dwy flynedd drwy fynychu dosbarthiadau nos, gan fod y tiwtoriaid yno gyda nhw ddydd a nos, a bod yr effaith ‘big brother house’ cynganeddol yn golygu nad oedd lle i neb ddianc rhag y gynghanedd – Aneirin Karadog

Ydych chi wedi rhoi eich bryd ar ddysgu hen grefft y gynghanedd? Ar y cyd â chymdeithas y gerdd dafod, Barddas, bydd Llenyddiaeth Cymru yn cynnal Cwrs Cynganeddu preswyl yn Nhŷ Newydd rhwng 20 – 24 Mehefin eleni dan arweiniad y Prifeirdd a’r cynganeddwyr medrus Mererid Hopwood ac Aneirin Karadog. Yn gwrs sydd wedi ei anelu at gynganeddwyr newydd sbon a’r rheiny sydd eisoes â pheth gafael arni, byddwch yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai, tasgau a thrafodaethau – a byddwch yn gadael Tŷ Newydd yn byrlymu o syniadau. Drwy rannu cwpledi gwallus a gwych, ac englynion carbwl a champus, gyda’ch gilydd cewch ddysgu mwy am y Gerdd Dafod, ac yn bwysicaf oll, ei mwynhau.

Eleni, bydd cyfle i ennill lle ar y cwrs yn rhad ac am ddim. Mae tri lle am ddim ar gael. Caiff dau ohonynt eu noddi drwy garedigrwydd Cronfa Gerallt a weinyddir gan Barddas, a thrydydd lle’n cael ei noddi gan Llenyddiaeth Cymru gyda’r bwriad o ddatblygu lleisiau newydd a mwy amrywiol ym maes y gynghanedd. Gwahoddir unrhyw un sydd heb fod ar y cwrs preswyl hwn yn flaenorol i ymgeisio. Er mwyn cyfrannu at nod Llenyddiaeth Cymru o sicrhau fod ein llenyddiaeth yn gynhwysol ac yn cynrychioli lleisiau sydd wedi eu tangynrychioli yn flaenorol, bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i unigolion sydd yn uniaethu ag un o dri nodwedd sydd wedi ei adnabod gan Llenyddiaeth Cymru fel rhai y dylid eu blaenoriaethu: unigolion o gefndiroedd du, Asiaidd neu leiafrif ethnig (BAME); unigolion o gefndiroedd incwm isel ac unigolion sydd yn byw ag anabledd neu salwch corfforol neu feddyliol.

 

Sut i ymgeisio:

Er mwyn cystadlu, mae gofyn i ymgeiswyr ysgrifennu darn cryno hyd at 300 gair ar y testun, ‘Pam ydw i eisiau cynganeddu?’, yn ogystal ag enghraifft o’ch gwaith llenyddol, sef tair cerdd neu un stori fer. Gofynnwn i chi ystyried ein dymuniad i gyflwyno lleisiau newydd sbon i fyd y gynghanedd yn eich cais. Anfonwch eich cais at tynewydd@llenyddiaethcymru.org gyda’ch enw llawn, manylion cyswllt a chyfeiriad gyda’r gwaith ysgrifenedig ynghlwm cyn 31 Mawrth 2020. Bydd y beirniaid, sef tiwtoriaid y cwrs – Mererid Hopwood ac Aneirin Karadog – yn ystyried ansawdd y gwaith llenyddol a’r awydd a gyfleir gennych i gynganeddu. Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn y rhifyn nesaf o Barddas.

Am ragor o wybodaeth am y cwrs neu’r broses o ymgeisio am y gystadleuaeth hon, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: 01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org