Cyhoeddi Rhaglen Gyrsiau Tŷ Newydd 2020
Gwe 25 Hydref 2019 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Dros 60 o awduron o Gymru a thu hwnt yn dod i
rannu eu harbenigedd yn y ganolfan genedlaethol

 

 

Mae’n bleser gan Llenyddiaeth Cymru gyhoeddi rhaglen gyrsiau agored Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ar gyfer 2020.

Mae dros 60 o awduron o Gymru a thu hwnt yn ymddangos yn y rhaglen, gan gynnwys enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 2019, Rhiannon Ifans, ac un o hoff awduron plant a phobl ifainc Cymru, Angharad Tomos.

Yn gymysgedd o gyrsiau undydd a rhai preswyl, bwriad y cyrsiau ysgrifennu creadigol hyn yw datblygu sgiliau egin awduron yn ogystal â rhoi cyfle i rai mwy profiadol wthio eu crefft ymhellach. Bydd cyrsiau yn canolbwyntio ar finiogi eich ffuglen, creu deunydd darllen difyr yn seiliedig ar ddigwyddiadau ffeithiol, barddoniaeth o bob math, comics, sgriptio i’r llwyfan, chwedleua a mwy. Bydd y cyrsiau yn cynnig sawl trywydd i awduron, ac ymysg rhai o themâu’r cyrsiau y mae ffeministiaeth, ysgrifennu i iachau, a byd natur.

Bydd y Cwrs Cynganeddu poblogaidd, mewn partneriaeth â Barddas, yn dychwelyd unwaith eto eleni dan arweiniad Mererid Hopwood ac Aneirin Karadog, yr unig gwrs carlam o’r fath yn y byd; a bydd cwrs undydd i ddysgwyr Cymraeg lefel uwch yn cael ei gynnal gan yr awdur a’r tiwtor Mared Lewis. Bydd brenin y fonolog, Aled Jones Williams yn dychwelyd i roi arweiniad ar y ffurf, a bydd awdur Babel, Ifan Morgan Jones, yn arwain cwrs undydd ar y grefft o ysgrifennu ffantasi a gwyddonias.

Manteisio ar brydferthwch milltir sgwâr Tŷ Newydd fydd Siân Melangell Dafydd yn ystod ei chwrs undydd yn y gwanwyn, gan ein tywys ni am dro i grwydro’r tir ac edrych am fwyd dan ein traed yn y caeau a’r llwyni i ni eu bwyta ar ôl dychwelyd i’r ganolfan. Bydd Angharad Wynne a Mike Parker hefyd yn mynd â ni ar daith wrth grwydro ac ysgrifennu am Gymru – ei chwedlau, ei llenyddiaeth a’i lle yn y byd.

Yn ogystal â chyrsiau wedi eu tiwtora, bydd encilion tymhorol yn y rhaglen i roi’r amser a’r tawelwch i awduron newydd gychwyn ar ddarn o waith yn eu hamser eu hunain, gan fwynhau cael eu prydau bwyd oll wedi eu darparu iddynt gan ein cogydd preswyl profiadol. Bydd ymwelwyr gwadd o’r diwydiant cyhoeddi yn ymweld ar ambell encil, i roi cyngor i’r rheiny sy’n barod i gymryd cam tuag at gyhoeddi eu gwaith.

Eleni fe agorwyd drysau Encil Awduron Nant am y tro cyntaf, bwthyn bach clyd ar y safle sydd wedi ei ail-ddylunio’n arbennig i ddarparu gofod heddychlon i awduron i encilio rhag bywyd bob dydd a chanolbwyntio ar eu gwaith. Yn rhedeg ochr yn ochr â’n cyrsiau, gellid archebu lle yn Nant unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn i fanteisio ar lonyddwch gorffenedig yr ardal fendigedig hon yn Eifionydd.

Ymysg yr enwau sy’n ymddangos yn y rhaglen Saesneg y mae Louis de Bernierès; Gillian Clarke; Ian McMillan; Imitaz Dharker; Cynan Jones; Pascale Petit; yr Awdur Comics Llawryfog, Hannah Berry; ein Children’s Laureate Wales, Eloise Williams ac Awdur Llawryfog Llundain, Theresa Lola.

Mae’r cyrsiau oll i’w gweld ar wefan www.tynewydd.cymru ac i ddathlu’r lansiad, cewch fanteisio ar ostyngiad o 10% ar yr holl gyrsiau, heblaw’r Dosbarthiadau Meistr, hyd nes 5.00 pm ar brynhawn Gwener 8 Tachwedd. Defnyddiwch y cod ‘rhaglen2020’ wrth archebu.

Am ragor o wybodaeth am Dŷ Newydd neu i wneud cais am raglen brint cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: 01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org