• Llun:  Kristina Banholzer
Cyhoeddi Rhaglen Gyrsiau’r Hydref yn Nhŷ Newydd
Llu 25 Mehefin 2018 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Cyhoeddi Rhaglen Gyrsiau’r Hydref

yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd

 

Mae’n bleser gan Llenyddiaeth Cymru gyhoeddi rhaglen o gyrsiau undydd yr hydref yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Gyda diwedd yr haf a dyfodiad mis Medi, daw’r awydd yn aml i gychwyn rhywbeth o’r newydd – felly beth am roi cynnig ar gwrs ysgrifennu creadigol byr? Mae’n cyrsiau undydd poblogaidd yn eu hôl, yn ogystal ag un cwrs unnos arbennig er mwyn rhoi blas ar brofiad preswyl Tŷ Newydd.

Bydd rhaglen yr hydref eleni yn croesawu rhai o brif lenorion Cymru i’r ganolfan i roi arweiniad ym meysydd ffuglen, newyddiaduraeth, barddoniaeth, a sgriptio i amryw o gyfryngau gwahanol. Byddwn hefyd yn agor drysau Tŷ Newydd led y pen i Gymru gyfan yn ystod ein diwrnod agored– lle bydd cyfle i fusnesu o amgylch yr adeilad hanesyddol a dysgu mwy am ein gwaith. Bydd paneidiau, melysion a lobsgóws enwog Tŷ Newydd yn eich disgwyl ar ddydd Sul 16 Medi, a bydd croeso yn eich disgwyl gan ein cyfeillion yn Amgueddfa Lloyd George hefyd.

Dyma restr  o’r cyrsiau sydd i ddod. Cofrestrwch yn fuan, gan fod ein cyrsiau undydd yn dueddol o werthu yn gyflym. Os ydych yn teithio o bell i ymuno â ni, holwch am lety am bris rhesymol. Mae rhagor o wybodaeth am bob cwrs a botwm i gofrestru eich lle ar gael drwy glicio ar y teitlau.

 

Dydd Sul 16 Medi: Diwrnod Agored

Rhwng 11.00 am – 4.00 pm bydd Tŷ Newydd yn cynnal Diwrnod Agored fel rhan o dymor Drysau Agored Cadw, ac yn gwahodd y cyhoedd i ddod draw i gerdded o amgylch y tŷ hanesyddol. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael, a theithiau gwybodaeth anffurfiol drwy’r dydd. Galwch heibio, bydd croeso cynnes yn eich aros.

 

 

Dydd Sadwrn 29 – dydd Sul 30 Medi: Sgriptio ac Addasu gyda Fflur Dafydd a Gwyneth Glyn

Cyfle i gael golwg ar sut i drosi syniadau o un cyfrwng i’r llall – o ryddiaith i ffilm, o’r llwyfan i opera – ac i edrych yn fanwl ar ofynion y cyfryngau amrywiol. Byddwn yn arbrofi gyda chreu naws o fewn golygfeydd unigol, yn ystyried sut i greu cymeriad cofiadwy, yn chwarae gydag ieithwedd ac arddull, a hefyd yn rhoi cyfle i awduron glywed eu gwaith yn cael ei ddarllen yn uchel. Bydd cyfle i gael sgyrsiau un-i-un yn ogystal â thrafod syniadau yn y gweithdai grŵp. Cwrs preswyl unnos fydd hwn.

 

Dydd Sadwrn 6 Hydref: Blas ar y Gynghanedd gyda Karen Owen

Dyma gwrs blasu yn arbennig i’r rheiny sydd â chwilfrydedd ynglŷn â’r gynghanedd. Beirdd Cymraeg ydi’r unig rai trwy’r byd sy’n cynganeddu. Mae’n fath o ysgrifennu sy’n dod â geiriau a cherddoriaeth at ei gilydd, ac mae’n 1,500 o flynyddoedd oed. Dewch am y dydd i drafod y grefft, i ddadansoddi ac i greu, ac mi fyddwch chi’n siŵr o fynd adref yn meddwl yn wahanol – nid am gerddi yn unig, ond am eich hanes a’ch iaith hefyd. Cwrs addas ar gyfer dechreuwyr llwyr, yn ogystal a’r rhai mwy profiadol sydd am ymuno yn y darganfod.

 

Dydd Sadwrn 27 Hydref: Sgriptio Comedi Sefyllfa gyda Sioned Wiliam

Mae comedi sefyllfa (sitcom) sy’n taro deuddeg yn beth anarferol iawn erbyn hyn. Mae’r traddodiad yn brysur ddiflannu gan fod cyn lleied ohonynt yn cael eu comisiynu. Ar y cwrs undydd hwn, byddwn yn ceisio dangos pam fod sgript comedi sefyllfa dda yn rhywbeth i’w rhyfeddu ato – yn creu darlun cyfoethog a chofiadwy ohonon ni fel bodau dynol. Yn ystod y cwrs fe fyddwn yn trafod sut mae creu cymeriadau crwn, gosod llinellau bachog yng ngenau’r cymeriadau a chreu’r strwythur mwyaf effeithiol ar gyfer y chwarae.

 

Dydd Sadwrn 3 Tachwedd: Newyddiaduraeth gydag Ifan Morgan Jones

Ydych chi a’r bryd ar ysgrifennu i’ch Papur Bro lleol? Neu i un o’r nifer lwyfannau newyddion cenedlaethol? Beth am gylchgronau Y Selar  neu ffansin cerddorol? Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno elfennau sylfaenol newyddiaduraeth ymarferol i chi, yn cynnwys ysgrifennu erthyglau newyddion, erthyglau nodwedd, ac ysgrifennu ar gyfer y we, teledu a’r radio. Byddwn yn trafod beth sy’n gwneud stori dda, sut i gasglu gwybodaeth a chyfweld, a bydd hefyd rywfaint o wybodaeth ynglŷn â chyfraith y cyfryngau. Cwrs ymarferol yw hwn, byddwn yn dysgu sut i wneud pethau ac yna rhoi’r sgiliau hynny ar waith.

 

Dydd Sadwrn 10 Tachwedd: Ysgrifennu Stori gyda Caryl Lewis

Ar y cwrs undydd hwn byddwn yn trafod syniadau am stori, a sut mae cael y gorau o’r syniadau hyn. Dewch â syniad. Unrhyw syniad. Un bach neu un mawr. Cewch edrych arno, ei astudio, a’i dynnu yn ddarnau er mwyn gallu ei werthfawrogi yn ei gyfanrwydd. Yna byddwn yn archwilio pa gyfrwng fyddai’n siwtio’r syniad orau – drama? Ffilm? Nofel? Byddwch yn archwilio’r man cychwyn yn ystod y cwrs, ac yna mae’r gweddill yn eich dwylo chi. Cwrs addas ar gyfer dechreuwyr llwyr, yn ogystal â rhai ag ychydig o brofiad.

 

 

Byddwn yn cyhoeddi rhaglen gyrsiau 2019 yn fuan yn yr hydref. Yn y cyfamser, dyma ddyddiad arbennig ar gyfer y dyddiadur:

Cwrs Cynganeddu preswyl gyda Karen Owen a Peredur Lynch

13 – 17 Mai 2019