Cyhoeddi Rhestr Hir Gwobrau New Welsh Writing 2019
Gwe 5 Ebrill 2019 / / Ysgrifennwyd gan New Welsh Review

Mae’r New Welsh Review yn falch o gyhoeddi rhestr hir Gwobrau New Welsh Writing 2019. Eleni, mae dau gategori sef Gwobr Prifysgol Aberystwyth ar gyfer Nofel Dystopiaidd, a Gwobr Rheidol ar gyfer Gweithiau Ysgrifenedig gyda Thema neu Leoliad Cymreig.

Sefydlwyd y Gwobrau yn 2015 er mwyn hyrwyddo’r gorau o’r goreuon ymysg ysgrifennu o Gymru. Mae saith awdur ym mhob categori, ac yn cynnwys cymysgedd o awduron newydd a phrofiadol sy’n byw yng Nghymru, Lloegr a Tsieina. Dyma’r rhestrau hir:

 

Gwobr Prifysgol Aberystwyth ar gyfer Nofel Dystopiaidd – Rhestr Hir (yn nhrefn yr wyddor)

Rosey Brown (Caerdydd, Cymru) Adrift

Kate Cleaver (Abertawe, Cymru) Piss and Wind

JL George (Pont-y-pŵl, Cymru) The Word

Dewi Heald (Llanilltud Fawr, Cymru) Me, I’m Like Legend, I Am

Rhiannon Lewis (Y Fenni, Cymru) The Significance of Swans

Thomas Pitts (Newbury, Lloegr) The Chosen

Heledd Williams (Tsieina) Water, Water, Nowhere…

 

Rhestr Fer Gwobr Rheidol ar gyfer Gweithiau Ysgrifenedig gyda Thema neu Leoliad Cymreig – Rhestr Hir (yn nhrefn yr wyddor)

Marilyn Barlow (Ceinewydd, Cymru) The Smallholding I Knew (Ffeithiol)

Mark Blayney (Caerdydd, Cymru) The Devil Next Door (Ffuglen)

Carol Fenlon (Skelmersdale, Lloegr) Letters from Dr Fowler (Ffuglen)

Peter Goulding (Thetford, Lloegr) On Slate (Ffeithiol)

Elizabeth Griffiths (Swydd Lincoln, England) Closing the Gap (Ffeithiol)

Richard John Parfitt (Penarth, Cymru) Tales from the Riverbank (Ffeithiol)

Sarah Tanburn (Penarth, Cymru) Hawks of Dust and Wine (Ffuglen)

 

Y beirniad eleni oedd Golygydd y New Welsh Review, Gwen Davies, gyda chymorth myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth ar gyfer y categori nofel dystopiaidd a gyda chymorth ei chyd feirniad, Cynan Jones, ar gyfer Gwobr Rheidol.

Caiff y rhestr fer ei chyhoeddi mewn digwyddiad yn Siop Lyfrau Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth nos Fercher 1 Mai 2019 rhwng 6.00 – 8.00 pm a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yn y Summer House yng Ngŵyl y Gelli ddydd Gwener 24 Mai rhwng 3.00 – 5.00 pm.

Bydd enillydd pob categori yn ennill gwobr ariannol o £1,000 yr un fel blaenswm yn erbyn e-gyhoeddiad gyda’r New Welsh Review dan adain New Welsh Rarebyte a beirniadaeth bositif gan yr asiant llenyddol Cathryn Summerhayes o Curtis Brown. Yr ail wobr yw taleb gwerth £300 yr un i’w defnyddio tuag at gwrs ysgrifennu creadigol yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, gydag arhosiad dwy noson yn Llyfrgell Gladstone’s fel trydedd wobr.

Noddir Gwobrau 2019 gan Brifysgol Aberystwyth, prif noddwr New Welsh Review, a’r tanysgrifiwr ffyddlon Richard Powell. Caiff y Gwobrau eu rhedeg mewn partneriaeth â Curtis Brown, Llyfrgell Gladstone’s a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Cefnogir y New Welsh Review trwy nawdd gan Gyngor Llyfrau Cymru.

www.newwelshwritingawards.com #NewWelshAwards