• Llun:  Will Biddle
Cymorth Ariannol i Drigolion Gwynedd
Mer 3 Awst 2016 / / Ysgrifennwyd gan Leusa

Diolch i Grant Strategol gan Gyngor Gwynedd, gallwn gynnig cymorth ariannol i drigolion Gwynedd sy’n awyddus i ddod i ar gwrs preswyl yn Nhŷ Newydd yn 2016-17.

gwynedd

Mae ceisiadau am fwrsariaethau ar agor i bobl o Wynedd sydd:
• un ai o dan 25 mlwydd oed,
• neu ar incwm isel,
• neu’n ddiwaith,
• neu wedi cofrestru fel anabl,
ac sydd heb dderbyn bwrsariaeth gan Dŷ Newydd yn ddiweddar.

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth, ac i ofyn am ffurflen ymgeisio am fwrsariaeth.

Nod Llenyddiaeth Cymru yw galluogi pawb fyddai’n elwa o fynd ar gwrs i Dŷ Newydd i wneud hynny, beth bynnag fo’r incwm a lefel o brofiad. Gallwch dalu am ffioedd cwrs mewn rhandaliadau dros gyfnod uchafswm o 12 mis, heblaw am y blaendal na ellir ei ddychwelyd (£100 sy’n ddyledus wrth archebu).
Ar gyfer unigolion a all fod angen cymorth ariannol, mae gennym fwrsariaethau, ond mae cyfyngiadau ar y gronfa. Er ein bod yn rhoi blaenoriaeth i bobl sydd ag incwm is, ni allwn sicrhau cymorth ariannol bob tro.
Er mwyn i ni asesu anghenion a bod yn deg gyda phawb, mae’n hollbwysig nodi cais am gymorth ariannol wrth archebu cwrs. Ni allwn ystyried cais am fwrsariaeth ar ôl i archeb gael ei wneud. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Thŷ Newydd.

 

Ysgoloriaeth gan gyn gyfranogwr – 2016

Awdur yw Meg Kingston sydd wedi cael peth llwyddiant gyda’i hysgrifennu, ac sy’n awyddus i helpu awduron newydd i ddilyn yr un llwybr. Yn ei geiriau ei hun:

Mae Tŷ Newydd yn lle hudolus sy’n fy nenu yn ôl tro ar ôl tro. Mae prydferthwch y lleoliad, cyfeillgarwch y staff a’r wefr sy’n teithio’n ôl adref gyda mi yn ychwanegiadau gwerthfawr at gynnwys y cyrsiau eu hunain. Rwyf wedi elwa cymaint o’m hamser yno a’r cymorth ariannol y derbyniais gan Dŷ Newydd ar ddechrau fy ngyrfa ysgrifennu. Rwyf o’r herwydd wedi penderfynu yr hoffwn helpu awduron eraill i fforddio cwrs yn Nhŷ Newydd.
Rwyf yn gwneud cyfraniad ysgoloriaeth o £250 i awdur, neu awduron sy’n dymuno mynd ar gwrs i’r noddfa greadigol hon.
Bwriad yr ysgoloriaeth hon yw cynorthwyo awdur, sydd fel fi fy hun – ag anabledd neu salwch cronig, ac sydd wedi cael peth llwyddiant cyhoeddi ar eu liwt eu hun. Does dim angen i’r awdur fod wedi cael ei dalu am y gwaith hwn, gall fod yn llwyddiant mewn cystadleuaeth hyd yn oed.

I wneud cais am yr ysgoloriaeth hon, gyrrwch lythyr neu ebost yn esbonio sut bydd yr arian yn eich cynorthwyo chi i ddod ar gwrs i Dŷ Newydd, a gyrrwch atodiad o’r gwaith sydd wedi cael ei gyhoeddi i Dŷ Newydd.