Mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth Cymru, Urdd Gobaith Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a Cadw, mae Gŵyl Hanes Cymru i Blant yn chwilio am 12 o awduron ifanc, rhwng 16-25 oed, i ymgymryd â’r her o ysgrifennu dramâu byrion i blant.
Bydd y 12 ddrama newydd yn cyflwyno hanes y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru, ac yn cael eu llwyfannu fel rhan o Ŵyl Hanes Cymru i Blant 2018. Yn ystod yr ŵyl bydd y sioeau, a fydd yn cynrychioli diwydiannau megis copr, llechi, glo, tun, haearn a gwlân, yn cael eu llwyfannu mewn lleoliadau treftadaeth dros Gymru gyfan.
Disgwylir i’r dramâu byrion hyn gael eu cyflwyno erbyn diwedd 2017 ar ôl i’r ymgeiswyr llwyddiannus dderbyn hyfforddiant pwrpasol mewn ysgrifennu creadigol, ymchwilio i hanes, a chreu cynyrchiadau dramatig gan Llenyddiaeth Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Meddai Pennaeth Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Leusa Llewelyn: “Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch ein bod ni’n rhan o brosiect Gŵyl Hanes Cymru i Blant. Mae’n gyfle arbennig iawn i ddeuddeg o awduron ifainc dderbyn hyfforddiant gan diwtoriaid proffesiynol, ac i weld eu gwaith yn cael ei berfformio o flaen cynulleidfa. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r deuddeg i gwrs yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yng nghwmni Anni Llŷn, ac at gael chwarae rhan ganolog yn natblygiad yr awduron ifainc.”
Meddai Cyfarwyddwr Gŵyl Hanes Cymru i Blant, Eleri Twynog: “Dyma gychwyn ar brosiect cyffrous iawn, fydd nid yn unig yn darganfod ac yn datblygu awduron ifanc sydd â’u bryd ar ysgrifennu dramâu, ond fydd hefyd, yn y pendraw, yn addysgu rhai miloedd o blant am gyfnod eithriadol o bwysig yn hanes Cymru. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r partneriaid am gofleidio’r syniad – bydd eu profiad â’u harbenigedd yn amhrisiadwy i’r 12 ymgeisydd llwyddiannus.”
Am ragor o wybodaeth am y prosiect ac am ffurflen ymgeisio i fod yn rhan o’r cynllun, ewch i wefan www.gwylhanes.cymru